Rees – Harding (1889 – 1966)

Ganed y Parchg Harding Rees ar Fawrth 15ed 1889 yn un o chwech o blant mewn bwthyn o’r enw Caesadler yn yr Allt uwchlaw pentre’  Llangennech,  Llanelli.  Yn y llun is-law, gwelwn Harding yn blentyn ifanc yn sefyll ar yr ochr chwith.

harding Rees1

Dyma’r hyn ddywedodd yn Seren Gomer (Gorff./ Awst 1951) am y bwthyn bach tô gwellt lle’i magwyd: “ Tair siambr oedd i’r hen dŷ, ac iddynt nenfwd isel, llawr pridd a ffenestr bob un, a’r rheiny mor fychan fel na allai braidd lygedyn o haul fentro i mewn drwyddynt.  Y ffordd orau i gael golau oedd trwy agor y drws ac, wrth lwc, edrychai hwnnw yn llygad yr haul.  Safai’r gegin rhwng dwy ystafell wely.   Yn yr un uchaf i du’r Dwyrain cysgai mamgu.   Am y pared i’r ystafell honno roedd y beudy, ac yno’r ddwy fuwch, llô neu ddau a’r merlyn broc.  Rhaid oedd bodloni ar sŵn y rheiny, beth bynnag a wnaent….  Yn yr ystafell isaf y cysgai eraill o’r teulu.  Gan freued y tô, gwelais y glaw lawer gwaith yn disgyn ar sil y ffenestr y tu mewn, a hwnnw’n tasgu drachefn ar y gwely. ….. Islaw’r tŷ roedd y ffynnon a ddiodai’r teulu a holl bobl yr Allt.   Hen iawn oedd mamgu’r adeg honno, bron cyrraedd ei 90 oed, eithr cariai ei baich o henoed yn weddol ysgafn.  Adwaenid hi y tu allan i’r teulu fel Pegi Rees, Caesadler.  Magodd 13 o blant a chafodd ei rhan o drallodion bywyd.…. Ni wn ba nifer o famau yng Nghymru a gafodd yr un fraint  â hi, sef gweld ei phriod (sef tadcu Harding Rees) a phedwar o’i meibion yn ddiaconiaid yn yr eglwys…….Ar yr aelwyd ar nos Suliau pan ymgasglai’r teulu o gwmpas mamgu, y clywais y termau ‘Etholedigaeth amodol a diamodol’ a’u cyffelyb, gyntaf.   Gellir dychmygu’r dylanwad a adawai ymweliadau’r cenhadon hynny ar eu hôl yn yr hen gartre’.   Mewn bwthyn arall gerllaw y lletyai’r pregethwyr a ddeuai i Gapel Salem (neu Salem yr Allt fel yr adwaenid ef).”

Cawn flas pellach ar ei brofiadau cynnar drwy’r hyn ddywed am y capel, Salem yr Allt a agorwyd ym 1840; man a fu’n ganolog yn ei fywyd e’ a’i deulu.  Dyma ddywed amdano -“Capel bychan iawn oedd gyda’i seddau dwfn a’i bulpud cul fel mai braidd y gellid gweld pen y pregethwr oni fyddai yn weddol dal.   Yr oedd ynddo oriel fechan, a grisiau cerrig o’r tu allan i ddringo iddo.  Canhwyllau brwyn oedd y cyfryngau golau am flynyddoedd yn yr hen gapel, ac ni welai’r hen lowyr a âi yno ar noswaith waith ond gwyn llygaid ei gilydd.   Aent yno wedi gweithio deuddeg awr y dydd (yn y pyllau glo) heb amser ond digon i gymryd eu bwyd cyn mynd…. Cyn adeiladu’r Capel yr Allt, byddai nifer o fedyddwyr y pentref yn cerdded i Felinfoel i ymuno â’r gynulleidfa yno.” (allan o ‘Canmlwyddiant Salem Llangennech 1879-1979’ gan Leonard Richards).

harding rees2Cadwai tad Harding siop gig yn Llangennech a dyna lle bu’r mab yn gweithio wedi gadael ysgol.  Yn ystod y cyfnod yma teimlodd Harding yr alwad i wasanaethu’i Arglwydd ac aeth am gyfnod o baratoi i Ysgol y Gwynfryn yn Rhydaman lle roedd Gwili’n brifathro.   Cafodd ei dderbyn i Goleg Bangor ym 1916 ond oherwydd ei safiad ar dir cydwybod yn erbyn rhyfel fe’i rhwystrwyd am y tro rhag dilyn y cwrs.

Dyma ran o’i ddisgrifiad byw o’i brofiadau fel gwrthwynebydd cydwybodol, “Saboth nad â’n angof gennyf i oedd hwnnw pan wasanaethwn fel myfyriwr o Ysgol y Gwynfryn yng nghapel Pontbrenaraeth gerllaw Llandeilo yng Ngorffennaf 1916, canys dyna’r Sul olaf i mi cyn fy ngorfodi i’r fyddin… Yr oeddwn drwy gydol y Saboth ar ôl hynny’n golchi llestri yng ngwersyll Cinmel yn y gogledd – llestri cwbwl wahanol i’r eiddo’r Deml gynt, ond yr oeddynt oll yn fwy cyfan na’m calon i ar y pryd.  Treuliaswn rhwng y ddau Sul hwnnw ddwy noson yng nghastell Caerdydd – cynullfan conscripts i’r fyddin – gyda gwŷr ieuainc gwir ddiwylliedig a oedd yno drwy orfodaeth, a chael eu hadnabod fel Gwrthwynebwyr Cydwybodol. … Wedi treulio rhai wythnosau yno fe’m hysbyswyd ein bod i fynd i Iwerddon…. I ffwrdd â ni i Gaergybi am long i Ddulyn ac wedi wythnos o saib ym mwrllwch barics yno fe’m cawsom ein hunain ar lan afon ar gwr pentref Rathdrum yn swydd Wicklow…. Rhoddwyd inni’r gorchwyl o gwympo gallt o goed…. Mewn pebyll y trigiasem ….. wyth ohonom ymhob pabell, a chyda’r nos yr oeddym megis olwyn trol â’n traed yn cwrdd â’i gilydd yn y canol…. ond fe gaem gwmni o fath arall ambell noson – llygod mawr o ddŵr yr afon oedd yr ymwelwyr hynny !   Yno gwelais enbydrwydd disgyblaeth filwrol ar fechgyn, a oedd, rai ohonynt, fodd bynnag gyda’r mwyneiddiaf o blant dynion.   Roedd yno eraill hefyd na ddeallent ein safiad ni, ac ni byddent yn ôl o ddangos hynny drwy ollwng cafodau o gerrig ar ein pebyll.”    Yn y gwersyll llafur yma yn Iwerddon y treuliodd Harding y tair blynedd nesaf cyn dychwelyd, ym 1919, i Goleg Bangor.   Yno, derbyniai ei wersi Groeg gan un o ysgolheigion gloywaf Cymru yn y maes hwnnw sef  Y Prifathro Silas Morris.

Y cam mawr nesaf yn ei flwyddyn olaf ym Mangor oedd iddo dderbyn galwad i weinidogaethu ar ddwy eglwys yn Sir Gaerfyrddin, sef Bethany, Llansteffan ac Ebeneser, Llangynog.   Fe’i ordeiniwyd ar Fedi’r 13eg a’r 14eg 1922.   Ar fore’r 14eg traddodwyd Pregeth Siars gan y Parch Alfred Morris, Llangennech, ac yn y cyfarfod ordeinio yn y prynhawn pregethwyd gan y  Parch JT Evans.   Y noson honno pregethwyd gan y Parchedigion B. James, y Tymbl a T.R. Williams, Dafen.   Yr hynaf o’r ddwy eglwys yw Ebeneser, Llangynog – bu iddynt ddathlu daucanlwyddiant yr achos yno ym mis Mai 2011.  Dyma’i unig ofalaeth, lle treuliodd ymron i chwarter canrif hapus iawn (tan 1946) pan orfodwyd ef, oherwydd afiechyd, i ymddeol o’r weinidogaeth.    Symudodd y teulu oddi yno i’r Bryn, Llangennech ym 1948 yna i Lwynhendy ym 1951 ac i Lundain i ymgartrefu gyda’i ferch Pegi am weddill ei fywyd (tan Ionawr 1966).

Dau bentref cwbwl wahanol oedd, ac yw, Llangynog a Llansteffan; Llangynog yn bentre’ prydferth, Cymraeg ym mherfedd gwlad, a Llansteffan yn bentre’ glan môr, Seisnigaidd ac yn gyrchfan i bobol o bell ac agos i fwynhau  llonyddwch a chyfaredd y pentre’, y castell a’r traeth.   Fedrwch chi ddim peidio â chael rhyw ymdeimlad o dangnefedd yno – does dim brys na phrysurdeb yn agos iddo.    Rhedai hen ffordd y pererinion o’r cyfandir ar eu ffordd i Dyddewi    drwy Lansteffan.   Fe fu Llansteffan unwaith yn rhan o Sir Benfro ac, mewn ffordd, mae’n perthyn yn agosach, yn ieithyddol, i waelod y sir honno nag i weddill Sir Gâr.   Ond er Seisnigrwydd yr ardal, Cymraeg graenus oedd iaith aelwyd Harding Rees  – yn wir, dim ond yn ei gartre’, ar aelwydydd pobol y wlad oedd yn aelodau yn Bethany ac Ebeneser y clywid y Gymraeg !   Roedd y ddau bentre’ hudolus yma yn siwtio’i anian greadigol a’i gariad at natur i’r dim – dyma oedd y lle delfrydol i’w ysbrydoli i farddoni ac i lunio pregethau.

Pobol fwyn a di-ymffrost yw pobol y ddwy ardal lle bugeiliai.   Roedd un teulu arbennig yn aelodau yn Bethany, gyda 12 o blant, a rheiny i gyd yn gantorion da.   Mae hanes am un ohonyn nhw yno yn troi at un o’r gynulleidfa pan oedd y pregethwr gwadd braidd yn hirfaith, gan sibrwd, “Wel, o leia’ mae e’n byrhau’r gaea’ !”    Cai Harding a’i deulu cyfan fendith fawr yn y cyrddau gweddi wythnosol, gydag ambell i gymeriad hoffus yn plygu ar ei liniau gan offrymu ymron i’r un weddi ar ei gof o wythnos i wythnos – byddai un diacon ffyddlon bob amser yn dechrau gyda’r geiriau,  “Diolch i ti o Dduw ‘i bod arnon ni a chyda ni fel ag y mae !”

Uchafbwynt y flwyddyn yn Llansteffan ac yn Bethany yn arbennig oedd mis Awst pryd y deuai glowyr o’r cymoedd ar y trên hyd at Lan y Fferi a chroesi’r Afon Tywi ar y bad i Lansteffan.  Yn 20au a 30au’r ganrif ddiwethaf roedd y capeli’n llawn drwy fis Awst oherwydd ffyddloniaid eglwysi Sir Forgannwg.   Roedd fel awyr iach i glywed acenion dieithr a’u lleisiau’n chwyddo’r canu yn yr oedfaon ar y Sul ac yng nghyfarfodydd yr wythnos.   Deuai’r un bobol nôl flwyddyn ar ôl blwyddyn, a gallasem fod yn siwr mai Myfyr Hefin (Urdd y Seren Fore) fyddai’n llanw un o Suliau Awst – un frawddeg Saesneg gofiadwy o eiddo’r gŵr hoffus yma oedd  “All the birds likes an ‘oliday !”

Uchafwyntiau eraill yng ngweinidogaeth Harding oedd y troeon y galwai ei gyd-weinidogion heibio i’r tŷ gan gynnal cyfeillach fywiog ar destunau crefyddol a llenyddol.   Byddai’r stôr o straeon digri’ a adroddid bryd hynny yn sicr o deilyngu’r wobr gynta’ mewn unrhyw gystadleuaeth !   Hoffai’r Parch Tudno Jones ddynwared y gweinidog hwnnw a chanddo go’s gorc ac yntau’n ceisio bedyddio aelod newydd,  ond mynnai ei go’s gorc godi i wyneb y dŵr !    Profai lawer o ddyddiau trist hefyd, fel yn hanes pob gweinidog, bid siwr.  Ond un digwyddiad tra heriol iddo a’i gyd-weinidogion yn y Sir Gâr oedd adeg yr ymgyrch i foddi pentre’ Llangyndeyrn – bu Harding yn gefn ffyddlon i arweinydd y gwrthsefyll llwyddiannus, Parch W M Rees, Llangyndeyrn, yn ystod y cyfnod anodd yma.  Cyfarfodydd y byddai byth yn eu colli oedd Ysgol Haf y Gweinidogion a gynhelid yn flynyddol, yn amal yn Llanwrtyd.

Yn ystod ei amser yn Llangynog a Llansteffan cyfarfu â’i briod, Cathrin Weeks o Lanybri gerllaw – hithau’n athrawes oedd yn meddu ar wybodaeth anghyffredin o eang ar draws sawl pwnc ac a fagwyd yn eglwysreg selog.    Bron na ellid ei chymharu â gwyddoniadur mewn meysydd megis Lladin, hanes, daearyddiaeth, Cymraeg, byd natur (caed gwers Gymraeg, Saesneg a Lladin wrth droedio drwy’r caeau a heibio’r cloddiau), ac fe’i trwythwyd yn y Beibl o ddyddiau ysgol a thrwy’r eglwys anglicanaidd a fynychai tan iddi briodi.   Priododd Harding a Cathrin ym 1926 a chawsant dri o blant, Pegi, Nest a Gwenallt.   Bu’n wraig gweinidog ffyddlon a doeth ac yn gefn gref iddo trwy bob storm a hindda.

Ond beth am Harding y dyn a’i ddiddordebau ?  O ran ei anian, y geiriau fyddai’n ei ddisgrifio orau yw, heddychlon, tra sensitif, addfwyn, graslon, gwylaidd, tawel a serchus.   O ran ei ddiddordebau, byddai wrth ei fodd yn mynd mas i’r wlad i ganol prydferthwch y greadigaeth.   Ond as na fyddai’n bugeilio, ar yr aelwyd y treuliai’r rhan helaeth o’i amser  – doedd ganddo ddim stydi – yn llunio pregeth a barddoniaeth, gan fynnu cael barn Cathrin ar yr hyn a grewyd ganddo.   Roedd y cyfnodau hyn yn amrywio o fod yn ddosbarth Beiblaidd i wers ar y cynganeddion !   Cai fwynhad mawr hefyd bob bore pan alwai’r cigydd heibio – daeth y cigydd i wybod mewn byr amser bod ganddo gwsmer oedd yn ‘gw’bod i bethe’  lle’r oedd cig yn y cwestiwn !

Roedd gan Harding farn gref ar rai pethe hefyd.  Byddai sôn am ryfel, dialedd, anghydfod neu greulondeb dyn at gyd-ddyn yn peri loes anhygoel iddo.  Ni allai ddioddef gweld neb yn cael niwed o unrhyw fath.   Gresynai’n fawr o weld pobol yn amharchu’r Saboth.  Pan aeth trwy gyfnod o sâlwch ac yn methu mynd i’r capel, byddai’n mynnu gwisgo mewn dillad parch yn union fel petai am fynd yno.   Byddai’r Sul cyfan yn y cartre yn troi o gwmpas pethe’r Tŷ – ni wnaed unrhyw waith a arferid ei wneud yn yr wythnos.  (Cyhoeddodd erthygl ym 1938 ar y testun “Come to Church Sunday – a plea from Llanstephan” i hybu gwaith Cymdeithas Cadwraeth y Sabnoth.)  Fel tad, byddai byth yn ceryddu na chodi ei lais i ddisgyblu’i blant – Cathrin byddai’n cael y gwaith hwnnw !     Ni ddioddefai rhegfeydd o unrhyw fath, nac unrhyw air oedd yn ymdebygu i reg, er enghraifft, ‘jiw’ neu ‘jiawch’ – iddo fe, roedden nhw ‘run fath â dweud ‘Duw’ a ‘Diawl’ !    Galwai’r ‘rhegfeydd’ yma yn ‘eiriau cryf’.   Mater arall a ddenodd ynddo deimladau pendant oedd gamblo – roedd ganddo wrthwynebiad cryf iawn yn erbyn prynu tocyn raffl.   Ceir cofnod ganddo yn Seren Cymru, Rhagfyr 1919, o gyfarfod Cwrdd Chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin, pan ddywedodd, “Datganwyd llawenydd i’r Senedd wrthod cynllun y Premium Bonds. Da gweld ambell un fel cynlluniwr yr uchod yn cael siom ambell dro.”

Fel y dywedwyd, ei brif ddiddordeb heblaw pregethu, oedd barddoni, ac englyna yn arbennig.   Bu’n olygydd Colofn yr Awen yn Seren Cymru am sawl blwyddyn.   Byddai’n hoffi cystadlu mewn eisteddfodau capel a phentre’ – cyfansoddodd ddarnau ar gyfer 57 ohonynt – 48 englyn, 6 pryddest a 3 thraethawd, a bu’n llwyddiannus mewn dros 35 ohonynt, gan gynnwys cipio saith cadair farddol hardd.   Yn gynwysiedig yn ei gasgliad helaeth o farddoniaeth y mae llawer i goffau anwyliaid neu i ddathlu achlysur arbennig.   Dyma rai engreifftiau:

Englyn er cof am Mrs MJ Evans, mam Y Parchg D.Hubert Davies, Ystradgynlais.Ei heinioes a roes i’r Iesu, – i’w weisionBu’n rasol ei llety;A’i dawn ar liniau’n denuGras ei Duw a gwres i’w dŷ. 

Englyn i ddathlu Jiwbili y Parch WP John, Castle St.

Abl iawn ar ei Iwbili – eitha gawr

Ymhlith gwir broffwydi,

Rhoddwn glod haeddfawr heddi

I hwyliau pêr W.P.

Priodas AurRhoes Iesu ei rasusau  -a’i gariadFel gwawr ar eich llwybrau;Ef yn hir a fynnai hauEi lun ar eich calonnau. 

Ni bu’r daith heb ei chreithiau  – na’ch aelwyd

Yn ei chôl heb saethau;

Ond gwnaeth y llwythau esmwythàu

A’r awel ar ei rhiwiau.

 

Cysgod palm a’r pren almon  – a roddo

Hir heddwch i’ch dwyfron;

A’r aur sy’n y fodrwy gron

Yn gyfoeth o atgofion.

 Yr Angor I rwymo llong yng ngrym lli  – hoelia’i fachYng nghilfeydd y dyfnliNes i’r awr ddod i’w godiO’i afael ef, ni syfl hi. CraithEr rhoi’n hael o rin eli – a’i hiroGan dynerwch drosti;Ni all hiroes oroesiRhych a lliw ei harcholl hi.
Convalescence (ar ddull englyn !)On the mend and commended  –  to be outO’  bed unattended;After being so upliftedHow well I feel fully fed. Haf 1955Y mwynaf o hir hafau  –  a thorethEi aur ar ei lwybrau;I’w rawn ef ni bydd prinhauEleni i’r melinau.
O’i holl englynion coffa, yr un mwyaf dirdynnolyw’r un i’w fam. Er Cof am ein Mam annwyl Hi grewyd yn gariaidd – a’i hanesSydd fel ennaint peraidd;Ni chudd bedd un fwy gweddaiddI’w gro aeth yn bur i’r gwraidd.

 

 llaw gras bu’n teyrnasu  – a’i haberth

O’n mebyd o’n deutu;

Lle i’r gerdd ac allor gu

Wnaeth o’i haelwyd i’w theulu.

 

Trwy’i henoed bu’n tirioni  – yn hael iawn

Ei oleuni trosti;

Addurnwaith Iôr oedd arni;

A’i rin Ef ei choron hi.

 

Yn nyddiau loes bu’n ddiddan  – yn ei phoen

Gwybu ffydd anniflan;

Er ei chur, ffrwd bêr ei chân

A lonnai’i duwiol anian.

 

Unigrwydd ac ing dagrau  – sy’n aros

Yn hir dan ein bronnau;

Niwl a gwyll sy’n dal i gau

Ar aelwyd fu’n wawr olau.

 

Yn Salem mae’n noswylio  – lle huna

Llu annwyl o’r henfro;

Hyd ei erw oer oedwn dro

Mae annedd i’n Mam yno.

 

Y gwir yw, nid y graean  –  yw ei lle

Yn y llaith oer drigfan;

Ond lili mewn gwlad loywlan

Yn ir ei gwedd ym mro’r gân.

 

Cyfansoddai o bryd i’w gilydd ddarnau digri’ megis –

 

                       Pôs i Saeson 

Iach y b’och chwi a’ch bychain

Yn wychach eich iechyd na’ch ychain,

Heb och na chur y b’och, a chain,

Ewch â’ch achau uwch ochain.

Cafodd y fraint o weld un o’i emynau – un pennill –yn ymddangos yn Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr Mae’r durtur yn pyncio’n y llwyn,A blodau y nef dan y glas;Daw’r awel â balmau mor fwynO erddi tangnefedd a gras;

O ! deued y wawrddydd ar daen

A’i golau yn obaith i gyd

Fod tlysach boreau ymlaen

I wawrio ar fywyd y byd.

 

Pregeth i seddi gwag  (Darn  adrodd)

 

Ar fore Saboth gerwin

A’r eira’n llanw’r llawr,

Pregethwr braf bregethai

Yng nghanol Merthyr Mawr;

Ni ddaethai’r bore hwnnw

Ond tair hen ffyddlon chwaer,

Ond mentrodd y pregethwr

Ar ddweud ei neges daer.

 

Ar ôl y gân a’r weddi,

A dechrau’r bregeth fawr,

Fe glywyd cwymp arswydol

Yn taro ar y llawr;

Beth oedd, ond un o’r gwragedd

Mewn llewyg dros y lle,

A’r llall mewn brys i’w chario

Bron marw tua thre’.

 

Ond mlaen yr âi’r pregethwr

Â’i  bregeth newydd sbon,

Ni fynnai dim i’w atal

Pe syrthiai’r ddaear gron;

Nid oedd yn awr i’w wrando

Ond un ar sedd y llawr,

Ond mynnai’r cennad cynnes

Barhau ei bregeth fawr.

 

Ar ôl yr oedfa ryfedd

O floeddio wrth ddim ond un,

Ac wedi gwario’i egni

Yn drwm a llesg ei lun.

Gofynnodd air y wreigan

I’r bregeth fawr ei grym,

“Rwy’n flin, Syr,” meddai hithau

“Dwi’n clywed fawr o ddim.”

Lluniwyd sawl teyrnged iddo, dyma ran o un a ymddangosodd yn Seren Cymru gan GTH o Castle Street, Llundain, “Bu’n weinidog da i Iesu Grist ar hyd ei yrfa, a rhoes wasanaeth gwiw i’w enwad.   Yr oedd yn fardd ac emynydd amlwg iawn a chyfrannodd yn hael ei awen i’r Seren a chylchronau eraill ar hyd y blynyddoedd.  Bydd colled drom mewn llawer cylch ar ôl y gŵr dawnus, radlon ac annwyl hwn.”

Ond hwyrach bod y cwpled isod o’i eiddo, a gerfiwyd ar ei garreg fedd yng Nghapel Salem Llangennech, ym 1966, ac yntau’n 76 oed, yn dweud y cyfan amdano:

“Glaniaf yn nhir goleuni

Os coeliaf ras Calfari.”

Adnod y dydd

Linciau