Williams – John (1886 – 1979)

JOhn williams

Ganwyd John Williams yn Rhosllanerchrugog ar 24 Gorffennaf 1886, yn fab i John a Sarah Williams. Ar ôl iddo adael yr ysgol, dechreuodd weithio yn dair ar ddeg oed yng Nglofa’r Hafod.  Bedyddiwyd ef gan y Parchg Evan Williams, ym Mhenuel, Rhos yn 1905, blwyddyn y Diwygiad mawr. Yn y cyfnod hwn, bu teulu John Williams yn

weithgar yn ffurfio cangen Penuel, sef Bethania.  Ym Methania, dechreuodd John Williams bregethu, ac anogwyd ef gan y gynulleidfa i ddilyn gyrfa yn y Weinidogaeth.  Bu’n fyfyriwr yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin cyn ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd.  Torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei yrfa golegol.  Ymunodd â’r R.A.M.C.  Ar ddiwedd y rhyfel dychwelodd i Gaerdydd i gydio drachefn yn ei astudiaethau.

Ordeiniwyd ef yn Ngharmel, Froncysyllte a Noddfa, Garth.  Priododd Anne Rogers, o Fanceinion a chawsant un mab, John Roger.  Bu’n dra llwyddiannus yn ei faes cyntaf.  Cododd dri i’r weinidogaeth Yn 1925, derbyniodd alwad i Salem Newydd, Glynrhedynog y Rhondda, a pharhaodd hyd ei ymddeoliad ddeng mlynedd ar hugain yn hwyrach.  Cefnogowyd ef drwy gydol ei weinidogaeth gan ei wraig Anne.  Hi oedd ysgrifenyddes Cymdeithas Genhadol y Rhondda Fach ac aelod blaenllaw ymhlith Cymdeithasau’r chwiorydd a Cymdeithas Gwragedd Gweinidogion.

Gweinidogaethodd yn Salem Newydd a’r gymuned gyffredinol gydag arddeliad mawr hyd ei ymddeoliad.  Yn y cyfnod hwn mae rhai’n dweud taw ef oedd gweinidog mwyaf poblogaidd yr ardal. Ym mlynyddoedd anodd iawn y dirwasgiad ac yn enwedig yn y 1920au a’r 1930au.  Adlewyrchwyd ei weinidogaeth yn y cyfeiriad ato fel ‘Esgob y Rhondda’ mewn erthygl yn y Western Mail. Cyfeiriad oedd hwn at ei weinidogaeth eang trwy ‘r gymuned, ond hefyd y ffaith ei fod yn unig weinidog gan y Bedyddwyr yn y Rhondda Fach y pryd hynny – gydag wyth Eglwys Fedyddiedig gref a bywiog yn y cwm.  Nodweddion o’r gymuned yn ystod y pymtheng mlynedd gyntaf  o’i weinidogaeth oedd streic hir y glowyr, sef Streic Gyffredinol 1926, cyfyngiad y diwydiant glo a’r diweithdra cyffredinol.  Roedd 40% o ddynion yr ardal heb waith yn 1927 ac yn 1932, blwyddyn anterth diweithdra yn Ne Cymru, roedd mwy na 50 % o ddynion Glynrhedynog heb waith.  Erbyn 1938, roedd 62% o ddynion di-waith yn yr ardal wedi bod heb waith ers dros dair blynedd. Yn ystod ei weinidogaeth, gwelodd grefydd yn boblogaidd a chryf, gyda chapel llawn.  Ond hefyd bu’n dyst i’r ymatebion teimladwy ac ingol i’r chwyldro cymdeithasol yn y gymuned – gan gynnwys encilio pobl o’r eglwysi a’r ardal.

Yn UBC – bu’n Ysgrifennydd Cymanfa Dinbych Fflint a Meirion, Ysgrifennydd Pwyllgor Dirwest yr Undeb, LLywydd Cymanfa Dwyrain Morgannwg, (1955) ac Arolygydd y gymanfa honno.  Cadeiriodd Adran y Rhondda a hefyd Cymdeithas y Gweinidogion lleol, Enwebwyd ef am lywyddiaeth UBC ddwywaith a bu’n aelod o’r Cyngor am flynyddoedd.  Gwahoddwyd ef yn aml i bregethu yng Nghyrddau Blynyddol yr Undeb gan gynnwys Cwrdd Cyhoeddus yr Undeb yn Aberteifi yn 1936. Arwydd o’r parch tuag ato yng nghymuned y Rhondda Fach oedd presenoldeb cynulleidfa fawr iawn yn ei gyfarfodydd ymadawol, gan gynnwys yr Aelod Seneddol dros y Rhondda Fach ar y pryd, W.H.Mainwaring. AS.

Ar ôl ymddeol mis Mehefin 1955, gadawodd y Parchg John Williams a’i wraig yr ardal i fyw gyda’i mab John Roger, yn gyntaf yn Ffynnon Tâf ac wedyn yn y Barri. Bu’n ysgrifennydd Cwrdd Adran Caerdydd am gyfnod wedi iddo symud i’r ardal.  Bu farw 26ain Rhagfyr 1979 yn y Barri yn 92 mlwydd oed.  Claddwyd ei weddillion ynghyd a gweddillion ei wraig ym Mynwent Pantmawr , Caerdydd.

Cyfrannwr:  Codwyd y cofiant hwn o lyfr Peter Brooks am Hanes Eglwys Salem Newydd.

Llyfryddiaeth

Eglwys Bedyddwyr Salem Newydd.   Awdur a Chyhoeddwr – Peter Brooks

Adnod y dydd

Linciau