‘Sesiynau trafod cenhadaeth gyda Cam Roxburgh’
Pan lansiwyd cynllun Hyfforddiant Cenhadol Forge Cymru, pwy fyddai wedi dychmygu y byddai’n heglwysi yn cael eu gorfodi i ymdopi ac addasu yn wyneb y fath amgylchiadau.
Synhwyrwn fod y cyfnod hwn yn groesffordd i nifer o’n heglwysi sy’n sylweddol fod yna gwestiynau mawr i’w gofyn ynghylch beth yw ‘bod yn eglwys’ pan na fedrwn ‘fynd i’r eglwys’ a pha fath o eglwys fydd hi wedi i’r argyfwng presennol fynd heibio.
Mewn ymateb i nifer o geisiadau, hoffwn roi’r cyfle ichi fod yn rhan o’r drafodaeth genhadol gyda grŵp o bobl sy’n awyddus i ystyried beth yw bod yn eglwys genhadol yma yng Nghymru. Mae grwpiau trafod yn gwbl opsiynol, ond roeddem yn awyddus i estyn gwahoddiad cynnes i bawb sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer sesiynau blasu Forge.
Hoffwn eich gwahodd i rannu mewn sesiynau ar-lein, lle y cawn drafod y fath gwestiynau a
chefnogi’n gilydd wrth inni gerdded y llwybr newydd hwn.
Gweler y dyddiadau’r sesiynau isod:
- 2 yp Dydd Iau Ebrill 23ain – Sesiwn gyda Cam Roxburgh, Simeon, Marc & Rob
- Dydd Iau Mai 7fed gyda Cam Roxburgh (2yh, 5yh, 7yh)
Gwaith paratoi: Darllen erthygyl Cam fan hyn Beth yw eglwys cenhadol? - 2 yp Dydd Iau Mehefin 18fed – Sesiwn gyda Cam Roxburgh, Simeon, Marc & Rob
- 2 yp Dydd Iau Gorffennaf 16eg – Sesiwn gyda Cam Roxburgh, Simeon, Marc & Rob
* Bydd Cam yn cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg ond fydd grwpiau trafod yn y Gymraeg.
Cofrestrwch trwy’r ddolen isod a dewis y sesiynau sy’n gyfleus i chi:
https://zoom.us/meeting/register/tJAvfuCgpjMsGtS33pz2veSWDojcFs1fxz4Q
Oherwydd cyfyngiadau MS Teams, rydym wedi penderfynu cynnal y cyfarfodydd ar raglen fideo-gynadledda Zoom. Bydd rhaglen Zoom yn caniatáu inni gynnal grwpiau trafod llai a galluogi grwpiau trafod cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.
Sut i ddefnyddio rhaglen fideo-gynadledda Zoom?
Cewch wybodaeth ddefnyddio ar sut i ddefnyddio Zoom gan gynnwys tiwtorialau fideo ar ein gwefan.
Adnoddau Cenhadol
Sesiwn 1: Beth yw’r Eglwys Genhadol? (Mawrth 12)
a ) Dogfen: Yr Eglwys Genhadol gan Alan J. Roxburgh (7 Tudalen)
Yr Eglwys Genhadol gan Alan J. Roxburgh
b) Fideo: Michael Frost ar fod yn Eglwys Genhadol (50 Munud)