Rhaglen S4C am genhadwr Corea Robert Jermain Thomas

DHP_MAI_120115rob_01JPGBu rhaglen ar S4C neithiwr am y cenhadwr o Gymro Robert Jermain Thomas sy’n adnabyddus iawn yng Nghorea am ddod â Christnogaeth Brotestanaidd i’r wlad. Yn y rhaglen, cawn gip hefyd ar y Coreaid sy’n dod fel cenhadon i Gymru bellach i ad-dalu’r gymwynas yn ôl fel petai.

Gallwch wylio’r rhaglen ar S4C Clic: http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?programme_id=523144673

 

“Dyma stori am rôl ganolog cenhadwr sydd ddim yn amlwg yn hanes Cymru, ond wnaeth gymryd Cristnogaeth i un o wledydd Asia, gan aberthu ei fywyd yn y broses,” dywed Jon Gower.

Ym 1865 mentrodd Robert Jermain Thomas i ledaenu’r gair yng Nghorea, a chyflwyno Protestaniaeth i’r wlad. Heddiw, 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae dylanwad y cenhadwr yn parhau yn Ne Corea. Mae tua thraean poblogaeth De Corea yn Gristnogion, ac mae nifer o Goreaid yn poeni’n arw bod pobl yng Nghymru’n colli eu ffydd.

imgres-47“Mae eglwysi De Corea’n fawr; yn Seoul mae eglwys Sarang yn edrych mwy fel pencadlys olew yn Houston,” eglura Jon, a deithiodd i ymweld â’r safle cysegredig hwn. “Os ewch chi i mewn i’r eglwys mi welwch chi gannoedd o bobl yn cael eu bedyddio, tua 40,000 o bobl yn addoli yn yr eglwys, mae cerddorfa gyfan yno, côr sydd yn fwy na chôr yr Eisteddfod. Ac yna trowch gornel, ac mi welwch chi gapel, yn union fel un Cymreig, ac arddangosfa yn sôn am hanes Cymru, gyda phortreadau o Evan Roberts, llyfrau Cymraeg ac yn y blaen.”

Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn dra gwahanol bellach ac mae Jon ei hun yn cyfaddef iddo yntau hefyd golli ei ffydd. “Mae’r Coreiaid yn sylweddoli bod Cymru yn llithro o fod yn un o’r gwledydd mwyaf crefyddol i un secwlar, ac maen nhw eisiau i ni gael diwygiad newydd. Maen nhw’n anfon cenhadon draw, i gael eu hyfforddi yn Llanelli, mewn hen ffwndri ar lan y môr, yng nghanolfan Robert Jermain Thomas.”

Siaradodd Jon gydag un o’r cenhadon yn Llanelli, a phan soniodd am Robert Jermain Thomas, dechreuodd y cenhadwr grïo oherwydd ei barch tuag at y Cymro.

Llwyddodd Robert Jermain Thomas i fynd â Christnogaeth i Dde Corea, ond beth fyddai’n ei feddwl o ddaliadau Cristnogol Cymru bellach?

“Mae’r bwrlwm yn yr eglwys yn Seoul fel rhyw adlais o sut roedd Cymru ym 1904,” dywed Jon. “Fe es i fynachdy Bwdhaeth, mewn cilfach yn y mynyddoedd yn Ne Corea ac roedd rhywbeth mwy sanctaidd i mi yn fan hynny. Mae’r eglwys yng Nghorea i mi mwy fel peiriant, ac mae Cristnogaeth yn cael ei fynegi mewn modd cyfalafol. Dwi ddim yn gyfforddus gyda chyfalafiaeth, ac mae oedfa yn un o’r eglwysi mawr newydd yn ormod o berfformiad a sioe i rywun fel minnau sydd wedi arfer â symlder capel bach Cymreig.”

Adnod y dydd

Linciau