Williams – Raymond (1928 – 1990)

 

raymond williamsGŵr o Landybïe, oedd Raymond Williams.  Roedd ei wreiddiau yn ardal y glo caled, ac ni anghofiodd y graig y naddwyd ef ohono. Ganwyd ef yn un o saith o blant i Blodwen ac Edgar Williams, ac roedd y teulu’n  selog yn eglwys Salem yn y pentref. Bu Raymond yn werthfawrogol o weinidogaeth y Parchg G. J. Watts, ac ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth, gan dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg Trefeca, cyn ceisio am le yng Ngholeg y Bedyddwyr yn Ffordd Richmond.

Roedd ei faes cyntaf yn Noddfa, Trecynon, Aberdâr, lle y blynyddoedd dedwydd. Yno cyfarfu â’i wraig, Margaret, ac yn y flwyddyn 1955 priodwyd y ddau yn yr eglwys honno.  Roedd mwyafrif helaeth o eglwysi’r Gymanfa yn medru cynnal gweinidog yn y cyfnod hwn, ac eto, gwelwyd fod yna drai ar nifer y gweinidogion yn y cymoedd. Gweinidogion oedrannus ar y cyfan oedd yn y rhengoedd yn y cyfnod hwn, ac roedd Raymond yn ifanc iawn yn eu plith.

Symudodd y teulu o flaenau un cwm i gwm arall, a phrofi bwrlwm cymuned debyg, i’r gogledd o Ferthyr. Mwynhaodd gymued glos yr eglwys yng Nghaersalem, Dowlais, ac yn ystod y cyfnod hwn y ganwyd eu mab mab Rhodri, un a ddaeth i wasanaethu Cymru ymhen yrhawg ym myd y cyfryngau. Dyma’r adeg y bu’n gloywi ei astudiaethau academaidd a sicrhau dwy radd nodedig iddo’i hun o Goleg Llundain. Nid camp hawdd oedd hynny ac ymroi i waith eglwysig yr un pryd.

Yn ddiweddarach ymatebodd i wahoddiad eglwysi Hebron, Ton, a Moria, Pentre, gan ymdoddi i fwrlwm cwm arall yng Nghymanfa Dwyrain Morgannwg.   Yng nghyfnod Raymond y death y ddwy eglwys i rannu gweinidog, a hynny er budd y ddwy. Sylweddolodd y gweinidog bod canran gynyddol o’i gynulleidfa yn ei chael yn anodd i ddeall yr iaith Gymraeg, a threfnodd ddarparu cymorth i’r sawl a oedd yn  brin eu Cymraeg i loywi iaith.

Yn Ebrill 1967, symudodd Raymond Williams i Gaerdydd, lle bu’n olynydd teilwng i’r Parch. D. Myrddin Davies. Gŵr un Cymanfa bu Raymond ar hyd ei weinidogaeth, a hynny mewn pedwar Cwrdd Adran, Aberdâr, Merthyr, Rhondda a Chaerdydd.  Cyfrannodd yn helaeth i fywyd y Cyrddau Dosbarth yn eu tro ac i’r Gymanfa ar hyd ei weinidogeth. Elwodd Undeb Bedyddwyr Cymru ar ei ymroddiad hefyd, ac fel ei ragflaenydd bu’n driw i Ysgol Haf y Gweinidogion.  Ohewydd ei farwolaeth gynnar ni chafodd ei anrhydeddu gyda llywyddiaeth yr Undeb, ond bu ei gyfraniad i’r Undeb  yn  un sylweddol.

Roedd Raymond Williams yn ŵr â’i fys ar bỳls ei oes, yn broffwyd i’w gyfnod ac yn un o bregethwyr mwyaf llachar ei ddydd. Meddai ar ddawn dweud gafaelgar, ac roedd yn llawn bwrlwm afieithus yn y pulpud.  Enillodd galon ei ofalaethau, a bydd cenedlaethau o bobl yn ddiolchgar am ei weinidogaeth a’i ddynoliaeth ddidwyll.  Cofir amdano gan bawb fel brawd a rannodd yn ddiarbed ohono’i hun gydag eraill. Ceir llawer yn tystio iddo fynd yr ail filltir droeon yn ei ofal dros eraill, ac adroddai Luned Tudno Jones iddo fod gyda hi dros adeg llawdriniaeth ei phriod Gwyn Tudno Jones, ac aros yn gwmni iddi nes i’r neges ddod i’r llawdriniaeth fod yn llwyddiant. Pan roedd un o aelodau ifanc yr eglwys yn glaf wrth weithio ar brosiect gyda’r Gwasanaeth Gwirfoddol Tramor, (VSO) roedd yn awyddus i deithio draw i ofalu amdani.  Bu’n fugail gofalus o’i braidd, a gwerthfawrogwyd ei waith yn fawr. Enghraifft arall o’i fwrlwn oedd gwirfoddoli i yrru cerbyd i Dde’r Eidal a roddwyd fel ymateb i lifogydd yno yn dilyn cais ar raglen radio Sulwyn Thomas.

Bu’n ddarlledwr cyson ar y BBC gan gyfrannu’n rheolaidd i ‘Munud i Feddwl’ ac i’r gyfres ‘Ar Derfyn Dydd’. Arweiniodd nifer o oedfaon radio yn ystod ei oes, gan gynnwys un pan roedd yn arwain oedfa Fedydd.  Tipyn o her i’r cyfrwng hwnnw.   Cyhoeddodd llawer o erthyglau hefyd ac roedd yn gyfrifol am Ddarlleniadau Beiblaidd yn y gyfres O Ddydd i Ddydd, yn Ionawr – Mawrth 1981.  Dewisodd fyfyrdodau ar y thema ‘Dilyn Iesu   ac yn honno gwelir teithi meddwl a darllen eang gweinidog y Tabernacl.  Cyhoeddwyd y ddarlith a draddododd ar y testun ‘Byd y Pregethwr’ yn y gyfres o ddarlithoedd er cof am Dewi Gravelle o dan nawdd Coleg y Bedyddwyr, (Gwasg Pantycelyn, 1991. Yn anffodus nid oedd yn medru traddodi’r ddarlith ei hun yn Hermon, Abergwaun, a’i fab Rhodri wnaeth hynny ar ei ran ar Ebrill 24ain 1991.  Mewn adolygiad o’r ddarlith dywedodd George John:

Teg fyddai dweud mai crynodeb yw’r ddarlith hon o’r argyhoeddiadau dwfn a fu’n ganllawiau i weinidogaeth oludog ein diweddar gyfaill ym mhob un o’i feysydd. A thrwy’r gair printiedig hwn y mae e’, er wedi marw, yn llefaru eto.  (Seren Cymru  24 Mai 1991)

Roedd ganddo feddwl chwim a greddf at waith academaidd.  Cynhesodd at ddiwinyddiaeth Ryddfrydol, ac roedd ei bwyslais o hyd gyda’r gwan a’r difreintiedig. Roedd yn effro i’r datblygiadau mwyaf diweddar ym myd astudiaethau crefyddol yn Ewrop, ac yn awyddus i rannu ei ddealltwriaeth gyda’i gyd-Gymry. Ymwelai â’r cynadleddau Ewropeaidd, ac ysgrifennai’n gyson ar y pwnc, yn Seren Cymru a mannau eraill.   Bu’n selog i gyfarfodydd Cristnogion yn erbyn Poenydio, ac roedd ei bwyslais gwleidyddol a diwinyddol yn effro i’r anghenus yn y gymdeithas. Trysorai’r fraint o gyfarfod Martin Luther King, un arall o’i arwyr ‒yn un o’r cynadleddau hyn. Roedd yn gefnogwr naturiol i bwyslais Cymorth Cristnogol a flodeuodd fel mudiad yn y chwedegau a’r saithdegau. Ymysg ei emynau ceir geiriau sy’n adlais o weddi St Ffransis o Asisi, ac yn effro i gyfle a chyfrifoldeb y Cristion i ofalu am y methedig a’r gwan yn ein byd:

Ein gwlad a’n pobl gofiwn nawr
Mewn gweddi wrth dy orsedd fawr;
Gad i’n teuluoedd geisio byw
Mewn heddwch gyda thi O Dduw.

Lle mae casineb, cariad fo,
A lle mae cam, maddeuant rho,
Yn lle amheuaeth dyro ffydd,
A gobaith lle mae calon brudd.

(Caneuon Ffydd, rhif 814),

Cafodd gryn hwyl ar gyfieithu emynau Saesneg. Ceir hefyd emynau gwreiddiol megis emyn yn seiliedig ar Eseia 43:19:

Praise to Thee, O Lord, we offer
For Thy glorious deeds of old,
But Thy grace new praise inspires
As Thy mercies still unfold.
Now we thank Thee, Heavenly Father,
That Thou makest for today
New things for the world’s salvation
In Thy wise and wonderous way.

Lluniodd emynau Cymraeg hefyd ar amryw o themâu megis ordeinio diaconiaid, Gŵyl Ddewi, a phwysigrwydd gwasanaeth Cristnogol.  Yn ystod y chwedegau, datblygodd y mudiad eciwmenaidd, ac roedd Raymond Williams yn gyfforddus yn yr awyrgylch hwnnw.  Datblygodd cyfeillgarwch rhyngddo â nifer o weinidogion ac offeiriaid dinas Caerdydd.

Ystyrid Raymond Williams yn bregethwr o’r radd flaenaf.  Roedd yn ddarllenwr eang ac yn gyfarwydd gyda’r datblygiadau mewn astudiaethau diwinyddol. Cyfeiriai’n gyson at ddiwinyddion megis Karl Barth, Ludwig Wittgenstein, Friedrich Wilhelm Nietzsche ac o blith y Cymry, ei arwr a’i fentor oedd D.R.Griffiths, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod yn y Tabernacl. Byddai’n dyfynnu o weithiau’r gwŷr dysgedig hyn ac yn cyflwyno’r esboniadaeth ddiweddaraf i’w gynulleidfa.   Derbyniodd wahoddiadau i bregethu yn uchelwyliau eglwysi, Cymanfa ac Undeb yn rheolaidd, ac nid oedd yn ei chael yn hawdd i wrthod ceisiadau gan eglwysi mawr a mân am ei gymorth.  Roedd yn gyfathrebwr effeithiol ac yn hwyliog ei wedd.

Goresgyn anawsterau oedd greddf Raymond Williams ac nid plygu iddynt.  Roedd yn ŵr y ‘Pam lai?’ yn hytrach na dweud ‘mae’n amhosibl’. Bu farw cyn y chwyldro digidol, ond byddai’n hawdd i’w weld ym myd y Power Point a’r sustemau cyfathrebu diweddaraf, ac yntau ond yn 62 oed ac ym mlodau ei ddyddiau.

Fel cyn-fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Ffordd Richmond, Caerdydd, roedd o hyd yn barod i uniaethu’i hun gyda’r sefydliad hwn.  Bu nifer o ddarlithwyr y coleg yn aelodau yn y Tabernacl. Yng nghwmni person fel Edward Williams, cyfrifydd a chyfreithiwr a hanai o’r Rhondda ac a wasanaethodd fel cadeirydd i’r coleg tra roedd Raymond Williams yn ysgrifennydd i’r sefydliad, bu’r Tabernacl yn selog ei chefnogaeth i’r athrofa.

Rhoddodd y gweinidog lawer o gyfleoedd i’r ifanc yn ystod ei weinidogaeth ym mhob un o’i eglwysi, ac felly yn y Tabernacl. Dangosodd Raymond gonsyrn dros y di-gartref yng Nghaerdydd gan sefydlu darpariaeth y ‘tê di-gartref’ ar brynhawniau Sul. Bu’n ymarferol ei wedd fel un a hyrwyddodd hostel Huggard, ar gyfer y di-gartref. Roedd yn awyddus i ddangos consyrn yr eglwys ac aed ati i gasglu arian i ddodrefnu ystafell yn y ganolfan. Cofir am Raymond Williams fel pregethwr cryf a chyfoes ac yn meddu ar wedd ymarferol a chadarnhaol ym mhob sefyllfa.

Adnod y dydd

Linciau