Michael – David John (1882- 1965)

David Michael

Prin yw’r gweinidogion a wasanaethodd yn yr un eglwys am dros hanner can mlynedd, a hynny o fewn yr un Cwrdd Adran a’r man lle cafodd ei eni a’i fagu.  Dyna fu hanes David John Michael, Blaenconin.  Ganwyd ef ar 3 Fai,1882 yn Craig y Felin, Cilgeran, cyn i’r teulu symud i dŷ o’r enw Panteg. Roedd Thomas Michael, ei dad, yn aelod selog ym Mhenuel, Eglwys y Bedyddwyr yn y pentref, tra roedd ei fam, Mary, yn driw i’r eglwys wladol yn y fro. Roedd dau fab arall ar yr aelwyd, sef William Laurence, a ddaeth i fod yn ysgrifennydd eglwys y Graig, Castell Newydd Emlyn. Bu yn y swydd honno am ddeg mlynedd ar hugain, a phan orffennodd gyda’r swydd honno, gwahoddwyd ef i wasanaethu fel trysorydd. Y trydydd mab oedd Thomas Michael, a elwid Tommy o fewn y teulu, a ganwyd ef yn 1884. Bu farw Mary, o typhoid ac anfonwyd y bechgyn at Addie, chwaer i Mary ym Mhenarth, ac o fewn y flwyddyn, dychwelodd y tri at mam-gu, sef mam-gu Bet, mam Thomas Michael, y tad. 

Roedd tad-cu y bechgyn yn saer maen, ac ef adeiladodd gapel Penuel. Roedd mam-gu Bet yn chwaer i’r pregethwr enwog o Gilgeran sef y Parchg Thomas John, un o bregethwyr amlwg y Methodistiaid Calfinaidd yn niwygiad 1859.  Roedd mam-gu Bet yn wraig gadarn ei chymeriad a chynnes ei phersonoliaeth. Byddai wrth ei bodd yn rhannu’r ysgrythur gyda phawb, ac nid rhyfedd i ddau o’r bechgyn gynnig am y weinidogaeth, sef David John, a Thomas. Ordeiniwyd Thomas Michael yn weinidog a chysylltir ef gydag eglwys Lerpwl yn bennaf. Bu farw yng Nghlunderwen yn 1922 ac yntau wedi derbyn galwad i wasanaethu’r eglwys Fedyddiedig Saesneg yno, pan oedd yn ddim ond 37 mlwydd oed..

 Y gweinidog cyntaf i D.J. gofio ym Mhenuel oedd y Parchg Cynon Evans a bu yntau yn ddylanwad mawr ar y bachgen ifanc.   Y Parchg Edwin Watkins, Llangynog a ddaeth yn ddiweddarach yn weinidog Cilgeran a Phen-y-bryn a fedyddiodd D.J. pan oedd ond yn ddeuddeg oed.  Roedd Mr Watkins yn brysur gyda phob gwedd o waith yr eglwys, gan wneud gwaith rhagorol gyda’r bobl ifanc.

Wedi cyfnod yn yr Ysgol Elfennol yng Nghilgeran aeth D.J. Michael i’r Ysgol Ganol yn Aberteifi.  Bu’n llwyddiannus yno gan ennill tystysgrif arholiad i’r Brifysgol gan gipio Ysgoloriaeth y Sir.  Bu ganddo ofid gyda’i iechyd a gwasanaethodd Penuel fel arolygwr yr Ysgol Sul ac fel ysgrifennydd yr eglwys.  Annogwyd ef gan ei weinidog i ddechrau pregethu ac yn 1902, cafodd ei dderbyn fel ymgeisydd i’r weinidogaeth yng Ngholeg yr enwad yng Nghaerdydd.  Ymaelododd yn eglwys Salem gan werthfawrogi gweinidogaeth y Parchgedigion T.T. Jones a Llwchwr Jones.  Enillodd radd B.A yno.  Cychwynnodd ar waith gradd y B.D. ond wedi Sul llwyddiannus ym Mlaenconin, gwahoddwyd e fi ystyried derbyn Sul ar brawf.

Michael a FrancesMae copi o’i lythyr at ei dad ym meddiant y teulu yn gofyn am gyngor parthed derbyn y Sul hwnnw, ac yntau o fewn blwyddyn i orffen ei radd B.D. Roedd pob cyngor a gafodd yn ei annog i dderbyn y Sul a pheidio gorffen ei ail radd, ac roedd derbyn cyngor ei dad yn amlwg bwysig iddo. Yn 1909 cafodd ei ordeinio i’r weinidogaeth a’i sefydlu’n weinidog ar eglwys Blaenconin. Bu’n lletya gyda gweddw’r cyn-weinidog sef y Parchg David Evans yn Fron-deg. Chwe blynedd yn ddiweddarach ar 4 Mehefin 1915, priododd D.J. Michael gyda Frances Mary Phillips o dref Aberteifi a hithau’n athrawes yn yr ysgol gynradd ym Mlaenffos, yng nghapel Cilfowyr. Y bwriad oedd osgoi denu sylw llawer o bobl pe byddent wedi priodi yn Aberteifi, ond datgelwyd y gyfrinach a llifodd y dyrfa draw i Gilfowyr.  Adroddir yr hanes i D.J. a’i frawd Tommy fynd am dro i leoliad o’r enw Patch, gan gyfarfod â Frances a’i chwaer Margaret Ann.  Estynnwyd gwahoddiad i’r ddau frawd gael te yng nghwmni’r ddwy chwaer.  Ar eu taith, daeth storm o law, a gwlychwyd y pedwar yn llwyr.  Drannoeth dywedir i D.J. gerdded yn ôl er mwyn sicrhau bod yn merched yn iawn.  Roedd D.J. yn yr un ysgol a Frances, a bu’n ei chynorthwyo gyda’i gwaith ysgol. Dywed y teulu iddi hi ei alw ef yn Defi ac iddo yntau ei galw hi yn Fan.  Roedd hi’n enwog fel unawdydd pan yn ifancach, ac am goginio. Roedd eu ‘rock cakes’ yn galed iawn, a byddai D.J yn tynnu ei choes drwy eu galw yn ‘iron buns’. Ganwyd iddynt bedwar o blant, sef Mary, Eilonwy, (Lon), Betty a  Thomas (Tom). Roedd aelwyd Fernhill yn gynnes a chroesawgar, ac roedd y pedwar plentyn a’u disgynyddion yn addoli’r ddau riant. 

Yn 1932, cafodd D.J.Michael ei anrhydeddu fel llywydd Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru.  Cyhoeddodd nifer o esboniadau, megis Hanes a Dysgeidiaeth y Prif broffwydi.  Yn 1939 cyhoeddwyd gwaith arall o’i eiddo o dan y teitl Y Tystion Cyntaf.  Gwasg Ilston oedd y cyhoeddwyr a’i bris yn swllt, sydd ond yn 10 ceiniog yn arian digidol Prydain bellach.

Un o ddigwyddiadau pwysig eglwys Blaenconin yn ystod gweinidogaeth y Parchg D.J. Michael oedd ail-adeiladu capel newydd yn 1933. Adeiladwyd y capel gwreiddiol yn 1844, gan ychwanegu ato yn 1861.  Roedd cost yr adeilad newydd yn £5,000 ac roeddent yn yn falch o gyhoeddi fod y cyfalaf wedi ei gasglu bron, gydag ond £500 yn weddill ar ddydd yr agoriad.  Bu trafod o’r cynllun am ugain mlynedd, ac ysgogydd y gwaith oedd y gweinidog gyda chefnogaeth brwdfrydig Mr Albert Thomas, Penrardd, trysorydd yr eglwys.  Y gweinidog a bregethodd yn yr oedfa agoriadol gan godi ei destun o Lyfr y Cronicl a’r Epistol at yr Effesiaid yn sôn am adeiladu teml newydd i’r Arglwydd.  Bu’n fenter sylweddol yn profi hyder a blaengarwch y gweinidog a’r gynulleidfa.  Y gweinidog a ysgrifennodd llyfr Hanes Blaenconin ar adeg ei chanmlwyddiant.  Roedd ei iaith yn goeth a’i ymarweddiad yn urddasol.

Bu D. J. Michael yn selog i’r Cwrdd Adran, y Gymanfa ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Bu’n ysgrifennydd Cwrdd Adran Gogledd Penfro am amser maith, ac roedd ei air a’i arweiniad yn ddeddf. Roedd hon yn ardal amaethyddol ac roedd D.J.Michael yn ei hadnabod yn fanwl iawn.  Olynnwyd ef gan Eric John, un o ddiaconiaid eglwys Bethel, Mynachlog-ddu. Yn 1939, cafodd ei ethol yn ysgrifennydd y Gymanfa, gan lenwi’r swydd i’r ymylon.  Cafodd D.J.Michael  ei ddychrafu i lywyddiaeth y Gymanfa yn 1935, a chynhaliawyd y Cyfarfodydd Blynyddol yn Ramoth, Abercych. Yn y gynhadledd hon y cafodd D.J.Michael ei ethol yn is-ysgrifennydd i’r Gymanfa, ac ar brynhawn y gynhadledd y traddododd ei anerchiad o’r gadair ar y testun Hanfodion yr Eglwys Fyw, gan bwysleisio pwysigrwydd i bob credadun cynnal cymundeb gyda Duw sy’n gofyn am weddi bersonol a gweddi gyhoeddus.  Pwysleisiodd hefyd yr angen i’r eglwys fyw arfer cariad o fewn yr eglwys, a hynny yn ei dro yn amlygu maddeuant a thrugaredd rhwng pobl a’i gilydd.  Cadarnhaodd hefyd fod yr eglwys fyw yn gweithio o blaid dyfodiad y deyrnas.  Nodwedd amlwg o fywyd gweinidog Blaenconin oedd ei ysbrydolrwydd defosiynol, ac roedd ei anerchiad o’r gadair yn dadlennu lawer o’i rinweddau amlwg.     

 Cynhaliwyd cyfarfodydd ar ben trideg, pedwar deg a phum deg mlynedd o’i weinidogaeth ym Mlaenconin, gyda’i gyfaill mynwesol Joseph James, Pisga, Llandisilio, yn llywyddu a llu o aelodau’r eglwys a gweinidogion yr ardal yn siarad yn y cyfarfodydd hyn.  Talodd D.J. Michael yr un gymwynas yn ôl i Joseph James ar achlysuron tebyg yn Pisga.

 Cafwyd cyfarchion gan y beirdd hefyd ac ysgrifennodd E. Llwyd Williams

 Canaf i sant Blaenconin – i harddwch
Ei gerdded dilychwyn,
Yma’n y fron mae’n frenin
A’i fawredd o ryfedd rin.

Gŵr doeth, rhoes y gair dethol – a rhagor
Mewn pregeth i’w bobol;
Y diangerdd angerddol
A’r Ffydd heb wrthuni’r ffol.

Bardd arall a luniodd englyn oedd. Pelidros gan ddweud

O Fichael! Clywaf eco – dylifiad
Ei lafur trwy Benfro;
Fel llefrith ei fendith fo,
Hwn wna’i fenyn pan fynno.

Roedd D.J. Michael a Joseph James yn adnabod ei gilydd ers dyddiau coleg, ac er eu bod mor wahanol i’w gilydd o ran natur a chymeriad, buont yn gefn, y naill i’r llall ar hyd y degawdau.  Bu’r Parchg Mathias Davies yn Horeb Maenclochog ac Eglwys y Gelli am amser maith hefyd, ynghyd a’r Parchg  R. Parri Roberts ym Mynachlog-ddu.  Roedd D. J. Michael yn heddychwr ers ei ieuenctid ond nid oes cofnod i D.J. Michael fod a rhan yn arweinyddiaeth yr ymgyrch i ddiogelu ardal Mynachlog-ddu, rhag cael ei ddefnyddio fel maes ymarfer i’r fyddin. Roedd llawer o dynnu coes yn eu plith er nid oes sôn fod D.J. Michael yn dynnwr coes yn llygad y cyhoedd.  Byddai’n mwynhau canu caneuon plant fel “I’m H-A-P-P-Y”, a “Daeth Iesu i’m calon i fyw”.  Roedd yn ymddangos yn ddyn difrifol ac yn cadw at amser bob tro.  Ni fyddai’n dioddef hel straeon a siarad gwag, ac ni fyddai’r teulu yn cael clywed dim cyfrinachol ganddo.  Pan fu farw, claddwyd llawer o gyfrinachau y fro gydag ef. Roedd wrth ei fodd yn yr ardd gydag ystod eang o flodau , llysiau a ffrwythau yn tyfu yno.  Fel un nad oedd yn gyrru car, byddai’n cerdded yn helaeth, ac atgof Mair, un o’i wyresau, oedd iddo fwynhau dysgu enwau’r boldau gwylltion iddi.

 Cofia’r ardal amdano fel gŵr i’w barchu ac weithiau i’w ofni. Roedd yn ŵr tyner, doeth, darllengar a myfyriol.   Cerddai’r ardal ym ymweld gydag aelwydydd yr eglwys, a phan nad oedd arian mân yn ei boced, byddai’n  estyn stamp i’r plant. Dyna fyddai eia rfer hefyd wrth roi cyfraniad i’r blwch casglu mewn oedfa.

 Symudodd ef a’i briod i fyw at eu merch Lon, yn Ninbych y Pysgod. Bu farw ar 9 Ionawr 1965, yn 82 oed, ychydig fisoedd cyn dydd dathlu penblwydd eu priodas aur.  Claddwyd ef ym mynwent Blaenconin, wrth y fan lle roedd y drws blaen i’r hen gapel.

 Cyhoeddodd bedwar llyfr sef:

  • Hanes a dysgeidiaeth y Prif Broffwydi
  •  Y tystion cyntaf
  • Hanes Blaenconin
  • Hanes Eglwys y Bedyddwyr, Penuel Cilgerran.

Cyfrannwyr: Denzil Ieuan John a Mair Paton.

Adnod y dydd

Linciau