John – Walter Phillips ( 1910 – 1967)

 

Walter John]Ganed Walter Phillips John ar 31 Ionawr, 1910 yn y Gilfach, ger Bargod, yng Nghwm Rhymni, ac yn ail o bum plentyn y Parchg D. R. John , gweinidog gyda’r Bedyddwyr a’i briod, Susannah Mary.  Roedd y ddau yn hannu o ardal Pen-y-groes ger Rhydaman, sir Gaerfyrddin. Bu’r tad yn weinidog eglwysi yn y Bargod, Porth (Rhondda), Abercynon ac eglwys hynafol Rhydwilym.

Addysgwyd Walter P. John yn ysgol ramadeg, Aberpennar, cyn cael ei dderbyn yn fyfyriwr yng ngholeg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd ( 1928-34 ). Tra oedd yn yr ysgol ramadeg ef ac R. E. Griffith a sefydlodd y gangen gyntaf o Urdd Gobaith Cymru yn ne Cymru, yn Abercynon. Bu’n fyfyriwr yng Nghaerdydd mewn cyfnod pan oedd pwyslais pendant gan y Prifathro, Dr Tom Phillips, ar bregethu. Graddiodd yn y celfyddydau a diwinyddiaeth.

walter IICychwynnodd ar ei weinidogaeth yn y Tabernacl, Pontarddulais, ym Medi 1934 ac ym mis Hydref, 1938, symudodd i ofalu am eglwys Castle Street, Llundain. Bu yno hyd ei farwolaeth ar 15 Mawrth 1967. Ymbriododd â Nansi, unig blentyn y Parchg Morgan A. Jones, gweinidog yn eglwys Nasareth, Hendy-gwyn ar Daf ac wyres y Parchg Daniel Jones, ei ragflaenydd. Bu iddynt un mab, Lynn, a weithredodd fel Cyfreithiwr Mygedol Undeb Bedyddwyr Cymru am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Er treulio blynyddoedd y Rhyfel yn Llundain a wynebu erchyllterau’r bomiau, ar ddiwedd y gyflafan trefnodd y gweinidog fod Castle Street yn danfon parseli o fwyd, dillad a sebon a roddwyd gan yr aelodau, at weinidog yn yr Almaen i’w rhannu yn ei ‘blwyf’ ac ymhlith y ffoaduriaid yno. Roedd yn briodol iddo gael gwahoddiad yn 1957 i ymuno â dirprwyaeth o’r Tŷ Cyffredin ar ymweliad â Dwyrain yr Almaen.

Daeth Walter P. John i amlygrwydd yn bur gynnar yn ei yrfa fel pregethwr diwylliedig a choeth yn y Gymraeg a’r Saesneg a bu galw mawr am ei wasanaeth yng ngwyliau pregethu ei enwad ei hun ac enwadau eraill yng Nghymru a Lloegr. Cyn eu hordeinio pregethodd ef ac Ithel Jones yng nghyfarfodydd blynyddol yr Undeb yn Abertawe yn 1934. Pregethodd yng nghyfarfodydd blynyddol Y Baptist Union of Great Britain ym Mai 1956. Nid oedd yn ddyn y sefydliad nac yn gynhadleddwr brwdfrydig. Meistrolodd hefyd gelfyddyd darlledu. Cyfrannodd yn gyson ar y teledu ac ar y radio.  Ef oedd cyflwynydd cyntaf Dechrau Canu, Dechrau Canmol, ac enillodd gydnabyddiaeth gan BBC Wales am safon ei waith.  Bu’n cyfrannu’n gyson hefyd ar ‘Thought for the day” ar Radio 4. Yr oedd yn rhyddfrydol ei safbwynt ac yn fawr ei sêl dros gyd-ddeall a chydweithrediad rhwng y cyrff crefyddol yng Nghymru. Ef agorodd y drws i aelodau o enwadau arall i ymaelodi yn Castle Street heb eu bedyddio’n gyntaf.

Bu’n gydawdur (â Gwilym T. Hughes) Hanes Castle Street a’r Bedyddwyr Cymraeg yn Llundain (1959), ac wedi ei farwolaeth, casglwyd rhai o’i bregethau a’i ysgrifau yn gyfrol, Rhwydwaith Duw ( 1969 ). Cyhoeddodd hefyd gasgliad o fyfyrdodau ar lyfr Jeremeia yn y casgliad ‘O Ddydd i Ddydd’, ychydig cyn ei farwolaeth. Cyfieithwyd hwn i’r Saesneg gan Miss Cass, un o wrandawyr eglwys yn Castle St, a hynny ar ei chost ei hun. Yn nofel Jack Jones, Some trust in Chariots (1948), ceir sawl cyfeiriad at Castle Street ac un sy’n amlwg at W. P. John ei hun, ond heb ei enwi. Cymeriad yn y nofel sy’n annog un arall i ddod ganddo i Castle Street a dweud: ‘For not only will Lloyd George be there. We have a new preacher. Lovely preacher he is. Young man … but … wait till you hear him.’ Roedd W.P. John yn ddarllenwr eang, ac wrth ei fodd gyda pob math o lyfrau.  Gallai ddyfynnu barddoniaeth yn hawdd, a defnyddio’r astudiaethau yn ei bregethu a’i ysgrifeniadau.

Cyfrannwyr:  Morgan J. Williams;  D.Hugh Matthews; Lynn John

Codwyd y coffâd hwn o’r Bywgraffiadur Cymraeg, a luniwyd gan M.J.Williams ac ychwnegwyd ato gan D. Hugh Matthews.  Roedd  M. J. Williams yn frawd yng nghyfraith i Walter P. John ac yn  gyn ysgrifennydd cyffredinol UBC.  Hugh Matthews oedd olynydd W. P. John yn Eglwys Castle St. Llundain. Mab i Walter P John yw Lynn John, cyn gyfreithiwr mygedol Undeb Bedyddwyr Cymru  Mae’r llun cyntaf yn lun ohono yn ystod ei amser yn Llundain, tra bod y llun llai yn dod o’i gyfnod ym Mhontarddulais.

Adnod y dydd

Linciau