Cymorth Cristnogol

Beth nesaf? Blwyddyn GAP gyda Cymorth Cristnogol?

Wedi gorffen cwrs lefel A? Wedi graddio? Eisiau newid? Eisiau gwneud gwahaniaeth? Os ydych dros 18, yn credu mewn cyfiawnder byd-eang, eisiau ysbrydoli pobl ifanc i ymgyrchu a dod i wybod mwy am faterion rhyngwladol, beth am wirfoddoli gyda Cymorth Cristnogol am flwyddyn? Mae Cymorth Cristnogol yn chwilio am berson egniol a brwdfrydig 18-25oed i wirfoddoli gyda ieunectid yng Nghymru o ddiwedd mis Awst 2010 tan fis Mehefin 2011. Mae’r profiad hefyd yn cynnwys 2 wythnos o daith dramor yn Hydref 2011 i weld prosiectau partneriaid Cymorth Cristnogol ar waith.

Beth fyddai o ‘mlaen i?

Gwaith gyda phobl ifanc fydd y prif gyfrifoldeb, yn eu hysbrydoli i gymryd rhan yn ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol. Bydd y daith dramor gyda’r criw yn allweddol i’r profiad, ac yn gyfle gwych i gyfarfod partneriaid Cymorth Cristnogol . Byddech yn rhan o rwydwaith o wirfoddolwyr GAP Cymorth Cristnogol dros Loegr, yr Alban ac Iwerddon. Byddai’r gwaith yn amrywiol, yn cynnig llawer o botensial i feithrin syniadau newydd ac yn cynnwys:

  • Gweithio gyda rhwydwaith o grwpiau ieuenctid dros Gymru
  • Arwain sesiynau a gweithdai gyda phobl ifanc
  • Trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth neu godi arian
  • Cynllunio ar gyfer arddangosfeydd a gweithio ar syniadau ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol fel Eisteddfod yr Urdd / Eisteddfod Genedlaethol
Pam fi?
  • Mae’n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau, meithrin cysylltiadau ac yn brofiad uniongyrchol o waith gydag asiantaeth ddatblygu.
  • Rhoddir  hyfforddiant a chefnogaeth gyson gan aelodau staff Cymorth Cristnogol dros y cyfnod.
  • Telir costau byw a chostau llety, a chost y pythefnos o daith dramor
  • Byddech yn gweithio fel aelod o dim Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ac mae’r swyddfeydd ym Mangor, Caerfyrddin a Chaerdydd.   Byddai’r lleoliad i’w gadarnhau gyda’r ymgeisydd llwyddianus.

 Sut i ymgeisio: Cysylltu gyda Jeff Williams 02920 844646 This e-mail address is being protected from spam bots, you need JavaScript enabled to view it neu galwch heibio uned Cymorth Cristnogol yn Eisteddfod Blaenau Gwent am sgwrs gyda aelod o staff  Dyddiad cau: Awst 16, 2010 

Beth nesaf? Blwyddyn GAP gyda Cymorth Cristnogol? Pam lai?

Am ragor o fynylion am yr hysbyseb gellir cysylltu â Branwen Niclas, 07888 997024