Sul Nol i'r Eglwys 2009

Sul Nol i’r Eglwys 2009

Yn dilyn ymgais ardderchog gan ein heglwysi fel rhan o ymgyrch Sul Nol i’r Eglwys yn 2009,  llawenydd yw gallu dweud bod ar gyfarteledd gynnydd o 14% wedi bod yng nghynulleidfaoedd yr eglwysi a gymerodd ran.

 

Mae rhai o’r sylwadau’n galonogol iawn –

 

“Roedd un wraig wedi symud mewn i’r gymuned yn ddiweddar ac wedi bod eisiau dod. Y gwahoddiad a dderbyniodd oedd yr hyn oedd eisiau arni i ddechrau dod”.

Mount Pleasant, Penfro 

“Daeth rhai pobl ynghyd nad oeddem wedi’u gweld yn yr oedfa ers amser hir, a hefyd rhai pobl o’r gymuned a fagodd ddiddordeb ar ôl y cyhoeddusrwydd, gan gynnwys rhai ieuenctid a ddaeth gydag aelodau o’u teulu. Arhosodd nifer ar ôl i gael paned yn y festri wedi oedfa foreol fyrrach na’r arfer”.

Rehoboth, Glyn Nedd 

“Daeth un teulu cyfan i’r oedfa – tad a mam ifanc gyda’u plant. Fe arhosodd y teulu i’r pryd ‘dewch a rhannwch’ ac maent wedi dod nol i addoli ar ôl hynny.”

Tabernacl, Caerdydd

Hyderaf bydd hyn yn ein hysbrydoli ni gyd i fod yn rhan o’r fenter y flwyddyn nesaf, ddydd Sul, 26ain o Fedi 2010.

Marc.

Rev D Marc Owen

Undeb Bedyddwyr Cymru