| GWEITHIWR CYMANFA |
|
Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg Gweithiwr Cymanfa Y mae’r Gymanfa, sy’n cynnwys 35 o eglwysi yn awyddus i apwyntio person llawn-amser i gyd-lynu ein cenhadaeth. Disgwylir i’r person fod yn Gristion ymroddedig a’r ddawn i ymestyn i’r gymuned i hyrwyddo gwaith yr eglwysi. Bydd yn gweithio mewn cyd-weithrediad a Phwyllgor y Gymanfa, yn enwedig yn y cyfnod cychwynol. Telerau i’w trafod gan ystyried profiad a chymwysterau. Anfonwch lythyr cais a CV erbyn Hydref 15fed, 2010 neu ffoniwch am sgwrs: Y Parch D H Edwards, 6 The Uplands, Radur, Caerdydd CF15 8BH 02920843652 / 07786362621
|