| Senana Cymru |
|
Cyfarfodydd Blynyddol Adran y Chwiorydd (Senana ) Cymru CYNHADLEDD DDWYIEITHOG FLYNYDDOL yn Neuadd Lloyd Thomas, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan 7-10 Medi 2010 Pris: £132.00 Thema: Cyfamod: "A Byddi'n Adnabod yr Arglwydd (Hosea 2: 14-23) Ffurflenni cofrestu: Mrs Pauline Edwards, 87 Ynys Werdd, Penllergaer, Abertawe, SA4 9AR (Ffon: 01792 893477) ************************ CYFARFODYDD BLYNYDDOL 2010 BMS CYMRU. CYFARFODYDD BLYNYDDOL ADRAN GENHADOL Y CHWIORYDD (ZENANA) CYMRU EGLWYS Y BEDYDDWYR COEDPENMAEN, PONTYPRIDD Nid oedd y 5ed o Fai eleni yn ddiwrnod braf iawn o safbwynt tywydd, ond gwelir llu o chwiorydd yn dyfod i Eglwys y Bedyddwyr, Coedpenmaen, lle’r oedd yr Ysbryd Glan yn cynhesu’r corff a’r enaid. ‘Roedd yno gynulleidfa luosog, hapus. Cychwynnwyd Oedfa’r prynhawn gyda’r ‘Intrada’ “Ysbryd y Tragwyddol Dduw” ac yna fe gyflwynodd y Llywydd, Mrs Loraine Williams, Bethel, Llangyndeyrn weddi fer, cyn cyflwyno’r emyn cyntaf. Yn dilyn yr emyn cafwyd darlleniad o’r Ysgrythur gan Mrs Anne Arnold, Noddfa, Ynysybwl, ac fe’n harweiniwyd mewn gweddi gan Mrs Mary Harries, Zion, Ynysybwl. Ar ôl y rhannau arweiniol cafwyd croeso twymgalon i Goedpenmaen gan y Gweinidog y Parchedig Stan Vart. Defod y sefydlu a ddaeth nesaf. Gofynnwyd i’r gynulleidfa i sefyll tra ‘roedd y cyn-Lywydd yn arwisgo y Llywydd newydd, Mrs. Alona Rees, Coedpenmaen, Pontypridd, a hithau yn torri ei henw ar Feibl Zenana Cymru, yna cafwyd gweddi ddwys dros y Llywydd a’r llywyddiaeth gan Mrs Bernice Davies, Coedpenmaen. Dyma’r amser i’r Llywydd newydd gyflwyno’r Is-Lywydd am y flwyddyn 2010 /11, Miss Carys Jones, Pandy, Glyn Ceiriog. Cawsom pwt o’i hanes, tamaid i aros pryd, edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf. Cymerwyd yr offrwm gan chwiorydd yr Eglwysi, ac fe offrymwyd y weddi ar y casgliad gan Mrs Joan Morgan, Coedpenmaen. Ar ôl canu emyn, cafwyd adroddiad cyd-gysylltydd y BMS yng Nghymru, Mrs Delyth Wyn Davies. Fel arfer, ’roedd yr adroddiad yn ddiddorol ac yn gynhwysfawr, ac yn hynod o ffres. Ar ddechrau ei adroddiad atebodd Delyth gais am eglurhad o ystyr yr enw ‘ZENANA’, cawsom ddisgrifiad clir a diddorol ganddi. Aeth ymlaen i sôn am waith y BMS; dywedodd mai y BMS yw’r Gymdeithas olaf i gynorthwyo ei Cenhadon heb unrhyw help ond ein rhoi ni. Sylweddolwn felly mor bwysig yw ein cyfraniadau ac yn enwedig ein gweddïau dros y Gymdeithas, ei Swyddogion ac yn arbennig ei Chenhadon. Ar ddiwedd ei adroddiad, hatgoffodd Delyth bawb a oedd yn bresennol am y Gynhadledd Ddwyieithog a gynhelir yn Llanbedr-Pont-Steffan, ar y 7-10 o Fedi, 2010. Estynnodd croeso cynnes i bawb. Diolchodd Alona yn gynnes i Delyth ac aeth ymlaen i groesawu Llywydd Mudiad y Chwiorydd, Mrs Hazel Williams Jones, i gyflwyno cyfarchion y mudiad. Dywedodd mai Cenhadon, Cenhadaeth a Chenadwri sydd yn ein clymu at ein gilydd. Dymunodd yn dda i’r Cyfarfodydd ac i’r Llywydd newydd. Yn dilyn cawsom eitem hyfryd, sef deuawd gan Hazel a Stella, “Have Thine Own Way”. Cawsom gwledd o ganu ganddynt a phleser oedd gwrando ar y neges a ddaeth trwyddo wrth iddynt gyflwyno’r gan. Diolchodd y Llywydd yn fawr iawn iddynt. Ar ôl canu emyn, cawsom Anerchiad y Llywydd. Thema’r anerchiad oedd “Trysor mewn llestri pridd”. Daeth ei neges o Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid, pennod 4 adnod 7. “Ond y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni”. Gan fod llawer o’r chwiorydd a oedd yn bresennol yn ddi-Gymraeg, cyflwynodd ein Llywydd ei anerchiad yn Saesneg. Cewch ddarllen cwtogiad o’r anerchiad wedi ei gyfieithi i’r Gymraeg yn y dyfodol agos yn nhudalennau “Seren Cymru”. Daeth prynhawn hyfryd i ben trwy ganu emyn, a chyhoeddwyd y fendith gan Mrs Marian Williams, Bethel, Hawthorn. Ar ôl oedfa’r prynhawn cawsom groeso cynnes i gwrdd o amgylch y byrddau lle ‘roedd gwledd yn ein haros. Diolch i bawb am eu caredigrwydd a’i haelioni. OEDFA’R HWYR. Ar ôl canu’r ‘Intrada’, cychwynnwyd yr Oedfa mewn gweddi gan y Llywydd, Mrs Alona Rees. Canwyd emyn, ac yna fe ddaeth y chwiorydd Mrs Joan Dickens a Mrs. Eluned Thomas, Libanus, Trefforest, ymlaen i’n harwain trwy’r rhannau arweiniol. Yn dilyn y rhannau arweiniol cafwyd eitem gan Grp Ieuenctid Coedpenmaen. Teimlwyd gwefr arbennig wrth wrando arnynt yn canu “Beautiful Lord, Wonderful Saviour” gyda grym ac argyhoeddiad. Cawsom fendith wrth wrando arnynt. Diolchodd y Llywydd yn gynnes i’r ieuenctid. Yn dilyn, cafwyd yr offrwm, a chyflwynwyd gweddi’r offrwm gan Mrs. Tricia Lewis, Coedpenmaen. Ar yr adeg yma, mynegodd Alona ei diolchiadau i bawb a oedd yn gysylltiedig i wneud y diwrnod arbennig hwn yn gymeradwy gan Dduw, ac yn fodd o fendith i bawb a oedd yn bresennol. Mynegodd y Llywydd ei braint wrth gyflwyno’r siaradwyr gwadd heno, Kevin a Gill Jones. Cenhadon yn Ne Affrica. Nyrs yw Gill ac mae Kevin yn gweithio gyda’r comisiwn Coedwigoedd. Maent yn wreiddiol o Tywyn. Ym 2004 aeth Kevin a Gill i weithio gyda’r BMS yn y Congo am ddwy flynedd a hanner. Yna aethant i fod yn bartneriaid gyda’r ‘Baptist Convention to South Africa’, eto o dan nawdd y BMS. ‘Roeddynt yn gysylltiedig ag arwain Eglwysi, a gweithio gyda’r bobl dlawd a chyfoethog, y du a’r gwyn. Cyfnod anodd iawn. Aeth Kevin a Gill i weithio gyda’r BMS ar ôl i’w plant adael y nyth; ’roeddynt yn ei canol-oed cynnar. Dyma wers i bob un ohonom sydd yn tybio ein bod yn ‘rhy hen’. Cawsom anerchiad cynhwysfawr a diddorol gan Kevin, yn agor ein llygaid tuag at fywyd yn Ne Affrica a’r dasg o ledaeni waith yr Efengyl yno. Diolch i Gill ac i Kevin. Daeth yr oedfa i ben drwy ganu yr emyn olaf – “I Dduw bo’r gogoniant, fe wnaeth bethau da”. Cyhoeddwyd y fendith gan y Parchedig Marion Ashton, Beulah, Cilfynydd. Gwelir yn y llun, o’r chwith i’r dde, yr Is-lywydd, Miss Carys Jones, y cyn-lywydd, Mrs Loraine Williams, y Llywydd, Mrs Alona Rees a’r cenhadon, Jill a Kevin Jones. Pauline J. Edwards. Ysgrifennydd |