Egwyl a Gwyl y Gwanwyn

EGWYL A GŴYL Y GWANWYN 2010

Er bod y dyddiad wedi cael ei newid fe ddaeth cwmni da o weinidogion i Egwyl a Gwyl y Gwanwyn yn Aberystwyth ar yr 8fed a’r 9fed o Fawrth.

Ar ôl cofrestru cawsom ein sesiwn agoriadol o dan ofal y Parchg. Olaf Davies a Rhys Llwyd ar y testun “ ‘Cawdel ynteu Cyfrwng’  Gwerth Pregethu”. Profwyd cyfnod buddiol yn y cyflwyniad a’r drafodaeth a ddilynodd a chafwyd cytundeb unfrydol bod pregethu Crist yn parhau  mor bwysig ag erioed, hyd yn oed os ydym o bryd i’w gilydd yn defnyddio cyfryngau cyfoes.

Yn yr ail sesiwn dewisodd Delyth Wyn Davies ein harwain ar lwybr  “Galluogi Disgyblion Cenhadol”.  Fe’n harweiniodd ar sut i gymell cenhadaeth, gan holi beth y mae’n ei olygu i fod yn ufudd i Dduw,  a oes yna wahanol raddau o ufudd-dod a beth yw nodweddion eglwys iach. Eto cafwyd trafodaeth fywiog a buddiol.

Ar ôl amser difyr  yng nghwmni ein gilydd tra’n cerdded y prom cawsom swper blasus a digonol cyn sesiwn yr hwyr a’r Parchg. John Rice Rowlands yn ein diddori gydag “Atgofion a Phrofiadau”.  Sesiwn gwerthfawr  sy’n werth ei hailadrodd  bob  blwyddyn.

Cawsom Epilog am 9.30 dan arweiniad Y Parchg. Peter M. Thomas ac aethom i’r gwely yn esmwyth wedi cael ein hatgoffa bod Duw yn rhan annatod o’n bywyd, yn llond pob lle ac yn bresennol ym mhob man.

Yn blygeiniol fore Mawrth  arweiniwyd ni mewn egwyl o ddefosiwn  gan Y Parchg. Judith Morris.

Ein siaradwr gwadd eleni oedd Y Parchg. Andrew Lenny yn gofyn “Pam rydyn ni’n dal ati?” Cawsom ein cyfeirio at lawer o adnodau a oedd yn ein hatgoffa am gariad Crist a Gras Duw. Y mae Gras yn golygu plygu neu ymostwng ac y mae Duw yn ymostwng atom yn feunyddiol. Beth sy’n unigryw i’n ffydd? – Gras (chwedl C.S.Lewis)  Y mae pawb yn gallu derbyn ohono’n ddiwahân.“Yr Iesu sy’n cryfhau, O’m mewn ei waith trwy ras; Mae’n rhoddi nerth i’m henaid gwan, i faeddu mhechod cas.”

Testun ein cyfnod olaf oedd “Adeiladu’r Blychau”  gan Y Parchg. Peter M. Thomas ac yntau yn ein hatgoffa i beidio diystyru’r pethau bychain (Sechareia a Dewi Sant). Y mae pethau yn digwydd yn yr enwad yn gyson; drysau’n agored a gallu Duw ar waith, breuddwydion a gobeithion yn cael eu gwireddu. Er mor hoff yw pobl o ddyfynnu  ystadegau, rhaid cofio  os ydy Duw ar waith dydy ystadegau’n golygu dim.

Cafwyd egwyl lwyddiannus a buddiol ac amser i rannu profiadau. Hyfryd oedd clywed oddi wrth y myfyrwyr  ifanc Rhys Llwyd ac Aron Treharne.

Dewch yn llu y  flwyddyn nesaf fe fyddwch yn sicr o fwynhau ac elwa o’r profiad.  Y dyddiadau i’w cofio yw Mawrth 15fed - Mercher 16eg 2011.