| Cartref Glyn Nest |
|
Cynhelir Dydd Agored Glyn Nest Dydd Mercher, 25 Awst 2010 am 2.00 o'r gloch Agorir gan Mr Dilwyn James, Rhoshill Mynediad: £1.00 (yn cynnwys te a theisen) "Dewch yn llu a rhowch yn llon" Bydd y Cartref yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed ar 25ain o Fedi 2010. Dewch i uno yn y dathlu Mae Cartref Henoed y Bedyddwyr Glyn Nest, Castellnewydd Emlyn wedi gorfod codi estyniad i gydymffurfio â Deddf Safon Gofal 2000. Torrwyd y dywarchen gyntaf ar Fawrth y cyntaf 2007 a bellach mae’r gwaith wedi cael ei gwblhau a'r agoriad swyddogol wedi bod ar Awst 27, pryd y daeth tyrfa dda ynghyd. AGORIAD SWYDDOGOL Agorwyd yr estyniad yn swyddogol ar Awst 27ain, gan Eirwen Lewis, chwaer 98 oed, sydd wedi ymgartrefu yng Nglyn Nest ers sawl blwyddyn. Cyn hynny cynhaliwyd oedfa fer effeithiol iawn o dan lywyddiaeth y Parchg Irfon C. Roberts, cadeirydd y Pwyllgorau Ty a Rheoli. Offrymwyd y weddi agoriadol gan y Parchg Gareth Morris (aelod o'r pwyllgorau Ty a Rheoli a Swyddog Ariannol) a'r Bnr Gwenallt Rees, llywydd yr Undeb fu'n gyfrifol am y Rhannau Arweiniol. Dygwyd cyfarchion gan y Parchg Dafydd H Edwards (cyn gadeirydd y Pwyllgor Ty); y Parchg Peter M Thomas (ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru) a Mrs Doreen Evans (Llywydd Mudiad y Chwiorydd). Dywedwyd gair hefyd gan y rheolwr presennol, Mrs Jayne Evans. Mr Samuel Owem, Siloam, Ferwig oedd yn cyfeilio a chanwyd dau emyn o waith y diweddar Parchgn T.R. Jones a J Arwel Thomas. Mrs Lydia Williams, Llanelli, fu'n gyfrifol am agor y Dydd Agored a ddilynodd ac yna aeth pawb ati i wario arian ar stondinau niferus a chael mwynhau disgled o de a theisen wrth gymdeithasu. Yn y llun gwelir: Dafydd H Edwards (cyn gadeirydd y Pwyllgor Ty); John Davies (Adeiladydd); Doreen Evans (Llywydd Mudiad y Chwiorydd); Wyn Harries (Pensaer); Irfon C Roberts (Cadeirydd y Pwyllgor Ty a Rheoli); Jayne Evans (Rheolwraig); Peter M Thomas (Ysgrifennydd Cyffredinol UBC); Gwenallt Rees (Llywydd UBC); Lydia Williams (Y wraig wadd); Mair Roberts, (ysgrifennydd Pwyllgor Ty); ac Eirwen Lewis, (Cartref Glyn Nest). Yr Estyniad : Cam 1: Creu cyfleusterau parcio ar gyfer aelodau staff, ymwelwyr a chyflenwyr y Cartref. Cam 2: Adeiladu adain newydd gyda phedair ystafell wely newydd en suite, ac addasu ystafelloedd presennol ar y llawr cyntaf. Creu gwell cyfleusterau ar gyfer y preswylwyr a’r staff ar y llawr, yn cynnwys ystafell rheolwr newydd, ystafell i’r meddyg, ystafell trin gwallt, ystafell storio cyffuriau a lle storio dogfennau. Cam 3: Adeiladu ystafell newydd ar gyfer y staff ar y llawr ac ystafell wely en suite ychwanegol uwchben. Cam 4: Adeiladu estyniad ar ochr dde’r Cartref ar gyfer creu cyfleusterau londri newydd ac ystafell i’r swyddogion i gario allan eu dyletswyddau gweinyddol. Lolfa newydd Cam 5: Addasu ystafelloedd er mwyn creu ystafelloedd ymolchi a chawod ar gyfer y llawr cyntaf. Cost y prosiect yw £600,000 yn cynnwys Treth ar Werth a ffioedd proffesiynol ac er i beth arian fod wrth gefn gan y cartref i ddechrau'r prosiect, erbyn ei gwblhau fe fydd y cartref mewn cryn ddyled. DIOLCH AM BOB CEFNOGAETH ARIANNOL A DDERBYNIWYD HYD YMA OND MAE ANGEN YCHWANEG APELIWN AM I CHI BARHAU I’N CEFNOGI *Beth am drefnu gweithgareddau codi arian yn eich capel?* Beth am neilltuo casgliadau cyfarfodydd arbennig? *Beth am apelio am gyfraniadau unigol gan eich aelodau? Beth am i’ch eglwys noddi ystafell yng Nglyn Nest? Derbynnir unrhyw gyfraniadau gyda diolch trwy law’r Ysgrifenyddes Apêl: Mrs Mair Roberts, Brynawelon, Ffordd Aberystwyth, Aberteifi, SA43 1LU (Rhif ffôn: 01239 612536). |