Is-Lywydd yr Adran Gymraeg

                                 Image

Yn unol â strwythur newydd Undeb Bedyddwyr Cymru a gadarnhawyd gan y Cyngor Cymraeg a’r Gynhadledd Flynyddol ym Mangor 2009, rhoddwyd cyfle i Gymanfa noddi’r darpar lywydd gan wahodd Gymanfa Caerfyrddin a Cheredigion i gychwyn y broses.

Yng Nghynhadledd flynyddol Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion a gynhaliwyd yn Noddfa Llambed ar y 5ed o Dachwedd cadarnhadwyd mai’r brawd Vivian Williams, aelod ym Methel Llanelli, sydd i gael ei anrhydeddu.

Llongyfarchwn ef yn wresog a dymunwn yn dda iddo dros dymor ei wasanaeth. 

Bydd y Bnr Vivian Williams yn awr yn dod yn rhan o’r Tîm Llywyddol canlynol:

Llywydd: Y Parchg Olaf Davies

Cyn-lywydd: Mr Gwenallt Rees

Darpar-lywydd: Mr Vivian Williams

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion yn gwahodd Cynhadledd Flynyddol Undeb Bedyddwyr 2010 i Fethel, Llanelli mewn partneriaeth ag eglwysi perthynol i Gylch Cymanfa Ganu Bedyddwyr Llanelli.

 

Cynhelir y Gynhadledd o ddydd Sul yr 11eg o Orffennaf hyd dydd Mercher y 14eg o Orffennaf.

IS– LYWYDDIAETH YR UNDEB 2010/2011

Tro Cymanfa Gorllewin Morgannwg yw enwebu is-lywydd 2010/11