Cyfarfod Blynyddol y Mudiad

 Cynhelir

CYFARFODYDD BLYNYDDOL

MUDIAD Y CHWIORYDD 2010

yn

HARMONI PENCAER, Sir Benfro

ar yr 22ain o Fedi, 2010

Cyfarfod y prynhawn am 2.00 o’r gloch

Llywyddion: Mrs Hazel Williams Jones

Mrs Margaret Davies

Cyfarfod yr hwyr am 6.00 o’r gloch

gyda’r Prifardd Mererid Hopwood

Darperir te i bawb. Tocynnau £4

Archebir erbyn Medi’r 8fed oddi wrth Mrs Valerie Llewhelin, Bristgarn, Wdig, Sir Benfro, SA64 0JN (01348 891228). Sieciau’n daladwy i Mrs V Llewhelin (Amgaewch amlen hunangyfeiriad wedi’i stampio os gwelwch yn dda)

CROESO CYNNES I BAWB

*********************************************

 

Cyfarfod Blynyddol Mudiad y Chwiorydd yn Rhuthun 2009

                                              Image

Y cyn-lywydd Mrs Rosemary Morgan; y llywydd newydd Mrs Hazel Williams Jones a'r is-lywydd Mrs Margaret Davies

I dref hynafol Rhuthun yn hyfrydwch Dyffryn Clwyd - gyda bryniau Clwyd a Hiraethog yn gwarchod drosti - y teithiodd chwiorydd Cymru ar y 23ain o Fedi eleni ar gyfer y cyfarfod blynyddol. Tref yw hon sydd â dros saith gan mlynedd o hanes ar gof a chadw a sôn am ambell frenin a brenhines a thywysog wedi troedio ei strydoedd. Ond ar y diwrnod arbennig yma, yng nghapel Heol-y-Parc, y chwaer Hazel Williams Jones oedd y frenhines a gyda phresenoldeb Brenin y Brenhinoedd a Thywysog Tangnefedd yno yn ogystal, does rhyfedd yn y byd i’r bendithion ddisgyn rif y gwlith drwy gydol y ddwy oedfa.

Crëwyd naws arbennig iawn a chafwyd yr ymwybyddiaeth o bresenoldeb Duw yn y weddi ddwys a offrymwyd gan Rosemary Morgan y llywydd ar ddechrau oedfa’r prynhawn. Sicrhawyd y fendith ymhellach wrth gyd ganu am y Duw sy’n llond pob lle a phresennol ym mhob man. Roedd nifer fawr o chwiorydd wedi danfon dymuniadau da i’r darpar lywydd ac yn ymddiheuro am eu hanallu i fod yn bresennol ac wedi i’r llywydd ddarllen rhestr ohonynt allan, galwyd ar ddwy chwaer o Ruthun i gymryd at y Rhannau Arweiniol. Darllenwyd gan Haf Lewis Jones am gomisiwn yr Iesu i’w ddisgyblion ac yna’r Iesu’n eu hannog drachefn yn hanes y Gweddnewidiad. Offrymwyd gweddi ddwys gan Mair Lewis. Gwylan Elidan, eto o Ruthun, oedd wrth yr organ a hithau hefyd a estynnodd air o groeso ar ran yr eglwys yn Heol-y-Parc.Braint arbennig wedyn i’r chwaer Rosemary Morgan oedd datgan bod yr her a osodwyd ganddi wrth iddi esgyn i lywyddiaeth y Mudiad yn Llandeilo llynedd wedi cael ei gyrraedd. Yr her oedd i gymdeithasau chwiorydd dros Gymru gyfan ymuno gyda Chymanfa Caerfyrddin a Cheredigion yn eu hymdrechion i godi arian i’r ddau gartref, Glyn Nest a Bryn Llifon. Y nod a roddwyd oedd £10,000. Cafwyd gwybod ganddi fod £12,000 eisoes wedi dod i mewn a bod y gronfa’n dal ar agor tan ddiwedd y flwyddyn. Newyddion ardderchog yn wir!

Gwahodd yr ysgrifennydd ymlaen i roi ei hadroddiad oedd gorchwyl nesaf Rosemary Morgan. Wedi diolch i bawb am bob cefnogaeth a chydweithrediad a diolch yn arbennig i Rosemary a’r chwiorydd dros Gymru a fu’n gweithio mor galed i gyrraedd y nod, aeth Bonni Davies ymlaen i sôn am y digwyddiadau cyffrous eraill yn ystod y flwyddyn. Yn fwyaf arbennig soniodd am ben-blwydd Cwlwm, taflen gyswllt y Mudiad. Roedd Cwlwm yn dathlu pen-blwydd yn un-ar-hugain oed. Talodd deyrnged i bob un oedd wedi bod yn rhan o’r cylchgrawn o’r dechrau nôl yn 1988 gan ddiolch yn arbennig i’r golygyddion, y chwiorydd Mary Williams, Rita Williams, Cathrin Williams, Mai Edwards a Katie Pritchard, heb anghofio’r rhai oedd wedi bod yn gyfrifol am y teipio, y gosod, yr argraffu a’r dosbarthu. Roedd y Mudiad yn ddyledus hefyd i bawb oedd wedi cyfrannu ysgrifau ac erthyglau dros yr un mlynedd ar hugain. Pwrpas y daflen o’r cychwyn oedd clymu Mudiad  Chwiorydd Bedyddwyr Cymru a’i changhennau yn y De a’r Gogledd yn nes at ei gilydd. Heb os mae wedi gwneud hynny. Dymunwyd yn dda hefyd i’r golygydd newydd Helen Davies, Penuel Bangor a fydd yn cydio yn yr awenau yn syth.

Cyflwynwyd adroddiad y trysorydd gan y chwaer Gillian Davies, Llanelli. Yn absenoldeb Mair Roberts, ysgrifennydd Pwyllgor Tŷ Glyn Nest, darllenwyd yr adroddiad gan Bonni Davies. Cafwyd y newyddion diweddaraf am gartref Bryn Llifon gan y chwaer Eiluned Ann Thomas.

Talwyd teyrnged i’r darpar lywydd Hazel Williams Jones gan y chwaer Einwen Jones, Ysgrifennydd y Gymanfa, ac wrth iddi ei chyflwyno i’r gynulleidfa cyfeiriodd at y dywediad adnabyddus “Mor saff â’r banc” ac ychwanegu y ‘gellir bancio ar Hazel’. Gorchwyl olaf Rosemary Morgan, cyn camu i lawr o’r llywyddiaeth oedd trosglwyddo’r llywyddiaeth yn urddasol i’r  llywydd newydd. Gyda’r gynulleidfa ar ei thraed arwisgwyd Hazel gyda Thlws Nannette cyn iddi wedyn arwyddo Beibl y Mudiad. Yn glo i’r ddefod offrymwyd yr Urdd Weddi gan Mary Wynne Jones.  Gorchwyl gyntaf Hazel Williams Jones fel y llywydd newydd oedd cyflwyno’r is-lywydd am 2009-2010 sef y chwaer weithgar o Sir Benfro, Margaret Davies, Harmoni, Pencaer. Diolchodd hithau am y fraint ac estynnodd wahoddiad twymgalon i Bencaer ar y 22ain o Fedi y flwyddyn nesaf.

Cyn i’r llywydd newydd draethu ei hanerchiad gwahoddwyd yn eu tro i’r pulpud, Lywydd Mudiad Senana Cymru, y chwaer Lorraine Williams o Langynnwr, Caerfyrddin a Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, y Parchg Olaf Davies, Bangor a’r ddau ohonynt yn dwyn dymuniadau da i’r Mudiad ac i’r Llywydd newydd.

Edrych nôl dros y flwyddyn 2009 a wnaeth y llywydd newydd yn ei hanerchiad gan dynnu sylw at sefyllfa drist yr oes sydd ohoni. Oes pawb drosto’i hun ac oes pobl sydd eisiau byw yn annibynnol o Dduw. Yng nghanol y cyfan mae’n fyd sy’n llawn pobl o bob oedran sydd angen clywed y Newyddion Da. Gan mai pobl gyffredin a ddewisodd Duw i wneud ei waith drosto a gan mai pobl gyffredin oedd disgyblion yr Iesu, anogwyd ni gyd i wneud yr hyn a allwn i ennill eraill i Grist. “Ni fedrwn newid y byd”, meddai, “ond efallai y medrwn ni newid byd  rhywun.” Terfynodd drwy ein hannog ni gyd i fod yn bobl Môr Galilea yn hytrach na phobl y Môr Marw fel y gallwn adlewyrchu cariad Duw yn ein bywydau ni.

Cyn terfynu’r oedfa cyfeiriwyd at y ddau stondin oedd wedi eu gosod i fyny yn y capel, sef stondin Delyth Wyn (BMSCymru) a stondin Mudiad Chwiorydd Cymanfa D.Ff.M. yn gwerthu ac yn lansio “Beth am Flasu” llyfr rysetiau a argraffwyd ganddynt er mwyn codi arian ar gyfer Cartref Bryn Llifon. Cyhoeddwyd y fendith i gloi oedfa fendithiol iawn gan Ann Owen, Llywydd y Gymanfa.

Hyfryd iawn oedd y gymdeithas o amgylch y byrddau yn Festri Bethania, capel y Presbyteriaid, yn dilyn yr oedfa a diolchir i Mrs Glenys Colborne am ei gwaith yn darparu a didoli’r tocynnau te ymlaen llaw gan sicrhau lle i bawb.

Wedi gair o groeso, gweddi a chanu’r emyn cyntaf yn oedfa’r hwyr braint Hazel Williams Jones y llywydd newydd oedd galw ar Adran Urdd Rhuthun ymlaen i roi eitemau. O dan arweiniad Ann Davies ac i gyfeiliant Einir Haf Huws cafwyd ganddynt ddatganiadau gwych iawn allan o’r sioe ‘Capten Noa’. Agorwyd y cyflwyniad gyda theulu Noa (naw o unigolion) yn canu yn eu tro - a lleisiau arbennig iawn gan bob un ohonynt! Gorffennwyd yr eitem gyntaf honno gyda’r naw yn canu - mewn cynghanedd berffaith - y gân “Mae y byd yn gwbl sych”. Ymunodd gweddill y criw â’r naw i ganu am yr Enfys gan roi clo gorfoleddus i’r cyflwyniad. Roedd ymateb y gynulleidfa yn dweud y cwbl am y perfformiad. Roeddent yn amlwg wedi mwynhau.

Dilynwyd y cyfraniad cerddorol gan arweiniad urddasol a dwys dwy chwaer. Darllenwyd hanes Iesu a Sacheus gan Kathryn Roberts, Bethania, Cynwyd, a gweddïwyd gan Rhianwen Huws Roberts, ysgrifennydd Pwyllgor Tŷ Bryn Llifon.

Y Parchg Nan Wyn Powell Davies, un o gaplaniaid Carchar Altcourse, Lerpwl oedd y siaradwraig wadd ac wrth ei chyflwyno cyfeiriodd y llywydd at yr hyn a ddywedodd un a fu mewn cysylltiad â hi yn y carchar, “What I remember is coming in with nothing and going out with Jesus in my heart”. Wrth gyflwyno i’r gynulleidfa gipolwg o’r hyn a ddigwydd y “Tu Hwnt i’r Twnnel” cymerodd y wraig wadd hanes Sacheus fel sail i’r hyn oedd ganddi i ddweud. Tipyn o agoriad llygad i ganran helaeth o’r gynulleidfa oedd clywed am yr hyn a ddigwydd o fewn i furiau’r carchar lle'r oedd mil tri chant o ddynion mewn caethiwed mewn un deg saith gwahanol adain. Roedd pob un ohonynt wedi troseddi mewn rhyw fodd neu'i gilydd wrth gwrs. Atgoffwyd y gynulleidfa mai twyllwr oedd Sacheus hefyd ond i’r Iesu ei wahodd i swper a chynnig maddeuant iddo. Mynegodd bod eisiau i gymdeithas newid y ffordd y mae’n edrych ar droseddwyr ac mai’r unig ffordd i edrych ar iachawdwriaeth yw trwy lygaid y Groes. Diweddwyd ei sylwadau drwy nodi hyn:  “Daeth Mab y Dyn i achub y rhai sydd mewn caethiwed”.

Roedd Sacheus, mae’n siŵr, wedi teimlo’n fach ac yn annigonol iawn pan ddringodd i fyny i’r goeden honno dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae’n sicr mai dyna’r teimlad oedd gan bawb yn mynd o’r oedfa hwyrol honno yn Rhuthun ac addas iawn rywfodd oedd geiriau’r emyn olaf: “O tyred i’n gwaredu, Iesu Da”! Does dim eisiau dweud rhagor!

Margaret Davies, yr is-lywydd, a fu’n enau ar ran y chwiorydd i ddiolch i bawb a fu’n fodd i wneud y diwrnod yn un cofiadwy, bendithiol ac arbennig iawn a chyhoeddwyd y fendith gan y Parchg Dyfan Thomas, Llywydd Anrhydeddus y Gymanfa.

“Cyd-fyw’n gytûn fel brodyr fyddo’n rhan,

A’th gariad yn ein cynnal drwy ein hoes”.

Bonni Davies, Ysg