Rydym yn awyddus i glywed eich barn – yn ddarllenwyr, cyn-ddarllenwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Seren Cymru!
Mae holiadur wedi cael ei ddosbarthu gyda’r Seren a byddwn yn dra diolchgar pe baech yn medru’i gwblhau a’i ddychwelyd i’r Llwyfan.
Mae modd lawrlwytho copi o’r holiadur o wefan yr Undeb neu gallwn anfon copi atoch.
Holiadur Seren Cymru (Copi PDF)
Holiadur SEREN CYMRU_ 11.10.17 (copi Word)
Cysylltwch â Mrs Menna Jones, Rheolwr Swyddfa, os ydych am dderbyn copi drwy e-bost: mennajones@ubc.cymru.
Dyddiad Cau ar gyfer derbyn yr holiaduron: Dydd Gwener, 17 Tachwedd 2017