Dole – James (1926-2009)

Un o blant Llanbradach yng Nghwm Rhymni oedd James Dole, a’i eni yn un o dri phlentyn Esther Ann (nee Phillips) a Richard Thomas Dole. Gweithiodd Ronald ei frawd, a’i chwaer Norma mewn siopau ar hyd eu hoes. Bu’r teulu’n  byw yn 12 Mountain View, Pwllypant, Llanbradach.  Addolent yn nghapel Seion, achos y Bedyddwyr yn y pentref, ac ymaelododd James â hi pan yn bymtheg oed. Etholwyd Richard, ei dad,  i fod yn ddiacon yno yn ddiweddarach yn ei oes.  Gweinidog yr eglwys yn ystod  plentyndod James oedd Eseia Hopkins, gŵr a gyfrannodd yn sylweddol i fywyd yr enwad yn ddiweddarach yn ei hanes.    Er mai achos Cymraeg oedd Seion, Saesneg oedd iaith y teulu, a myfyriwr uniaeth Saesneg aeth i’r coleg ym Mangor.  Cyn cyrraedd yno bu’n ddisgybl ymroddedig yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Un o’i hoff bynciau yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yng Nghaerffili oedd Cymraeg, ac athro a adawodd cryn ddylanwad arno oedd Mr T. M. Bassett, a ddaeth ymhen blynyddoedd yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn awdur ‘Bedyddwyr Cymru’  (Gwasg Ilston 1977). Gadawodd yr Ysgol Uwchradd yn 14 oed, gan weithio mewn siop ac yna mewn rheilffordd yn ystod cyfnod y rhyfel gan fod ei dad yn methu gweithio oherwydd salwch. Dilynodd gyrsiau drwy ohebiaeth er ceisio am le yn y brifysgol.  Roedd llywodraeth y dydd yn awyddus i gymell pobl ifanc i dderbyn addysg prifysgol gan fod cymaint o ddoniau adacemaidd Prydain wedi eu colli yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ym Mangor daeth yn argyhoeddedig bod yn rhaid iddo ddysgu’r Gymraeg, a chafodd hwyl yn gwneud hynny. Meistrolodd y Gymraeg o fewn blwyddyn yn y coleg, a hynny yn defnyddio iaith a oedd yn gwbl gywir o ran geirfa a gramadeg. Roedd yn fyfyriwr cydwybodol a disglair, ac yn gorffen ei gyfnod ym Mangor wedi graddio gyda B.A.,B.D. Dewisodd wrthod y cyfle i fod yn fyfyriwr ymchwil yn Rhydychen, er mwyn cael aros yng Nghymru. Cyfarfu â Mair Williams, aelod yn Eglwys Bresbyteraidd, Kingsland, Caergybi, ac yn 1954 priodwyd y ddau yno gan y Parchg Trefor Evans.  Yn ddiweddarach, bedyddiwyd Mair yng nghapel Seion, Llanbradach gan gyfaill coleg i James, sef y Parchg Emlyn Jones.  Ganwyd iddynt bump o blant sef Gwen, Emlyn, (a ddilynodd ei dad i’r weinidogaeth), Olwen, Sian a Meirion.

Cafodd James bedair gofalaeth yn ystod ei oes sef Hermon, Llanon (1954-1960): Harlech, Talsarnau a Llanfair ym Meirionydd(1960-1969); Bethania Maesteg, Calfaria Cwmfelin, ac Ainon Pontrhydycyff(1968-1974) cyn derbyn cyfrifoldeb gofalaeth eglwys Soar, Llwynhendy (1974-1986).  Cofir amdano ym mhob un o’r eglwysi hyn fel gweinidog cydwybodol a bregethai yn glir a chadarn gan ymweld â’r praidd yn rheolaidd. Yn ystod y blynyddoedd cynnar yng Nghwm Gwendraeth, cafodd flas ar feithrin dosbarth o amaethwyr ifanc yn Hermon.  Cofia Neville Daniel, ysgrifennydd presennol yr eglwys, iddo dderbyn parch sylweddol ymhysg y bechgyn fel un a geisiai eu deall a gwerthfawrogi eu cefndir, a bod ei feistrolaeth ar yr iaith Gymraaeg yn arbennig iawn – “Roedd fel ton o awyr iach yn ein plith”.  Datblygodd ddealltwriaeth y bechgyn hyn yn sylfaeni’r ffydd Gristnogol a’u meithrin i fod ymhen y rhawg yn arweinwyr yr eglwys.  Sefydlwyd cangen o’r Sennana yn Hermon yn ystod y cyfnod hwn gyda Mair Dole yn arwain. Roedd hyn yn fodd i ddod a datblygiadau diweddaraf y genhadaeth dramor i sylw’r eglwys.

Yn ystod ei gyfnod ym Meirionnydd, datblygodd ddiddordeb mewn caplaniaeth ysbytai, a bu hyn yn nodwedd sylweddol i’w weinidogaeth, weddill ei oes. Roedd yn fyfyriwr wrth reddf, ac yn y cyfnod rhwng 1966-68, cafodd gynnig ysgoloriaeth i fynd i’r Unol Daleithiau ac astudiodd gaplaniaeth yno, a derbyn gradd Th.M  Meddai ar y ddawn i wrando’n astud, a chymryd sylw o sylwadau pobl eraill, na fyddai eraill o reidrwydd yn ei wneud. Siaradai’n bwyllog ac yn ystyrlon. Ni ruthrai ei eiriau, ond byddai’n amlwg fod pob sylw wedi ei bwyso’n deg ac yn adeiladol.  Dyna oedd ei ffordd yn y pulpud a byddai’r gynulleidfa yn siwr o wrando arno, yn ymwybodol ei fod wedi paratoi pob brawddeg yn ofalus.   Byddai wrth ei fodd yng nghwmni pobl a’i lais dwfn a’i chwerthiniad iach i’w glywed ym mhobman.   Ar ôl i’r teulu ddychwelyd o’r Unol Daleithiau, derbyniodd wahoddiad i brofi bywyd yng nghymoedd y de, (nid anhebyg i fro ei febyd) gan fwrw iddi yn ardal Maesteg.  Yma eto, cafodd gyfle i wasanaethu fel caplan, a bu’n ddarlithydd gwadd mewn cylchoedd eraill ar y profiadau hyn. Cydnebyddai y Parch Lloyd Jones, Deon Gwlad yn Esgobaeth Bangor, ddylanwad James Dole ar ei fywyd cynnar, pan roedd yn mynychu Bethania Maesteg.   Bu hefyd yn ddarlithydd yng nghanolfan Addyg yr Oedolion Maesteg gan arwain ar gwrs ’Religion and You’. Mae’n rhaid ei fod yn cofio ei werthfawrogiad o’r cymorth a gafodd yng Nghaerffili a’r cyrsiau a ddilynodd yn y cyfnod hwnnw. Yn ystod ei gyfnod ym Maesteg, datblygodd ei ddiddordeb yng Nghymdeithas y Samariaid, gan gynnig clust i gri yr anghenus.  Er gadael Maesteg am Lwynhendy, cadwodd y diddordeb hwnnw, gan deithio o fro’r Sosban i Abertawe yn selog er mwyn cyflawni’r gwaith. Rhoddodd ei gefnogaeth lwyr i Gymorth Cristnogol hefyd gan roi amser i gefnogi’r asiantaeth honno ar ei phwyllgorau. Corff ar

all y bu i James a Mair ei gefnogi’n ymarferol oedd Cymdeithas Epilepsi Gogledd Cymru gan fod James ei hun yn dioddef o’r salwch.  Bu Mair yn cynorthwyo gyda gwaith pwyllgor Cartref Henoed y Bedyddwyr yn y Gogledd, sy’n enghraifft arall o’r modd roedd y ddau yn byw eu ffydd mewn ffyrdd ymarferol ac ymroddedig.  Dywedodd ar ddydd ei ordeinio, nad oedd ei briod yn atodiad i’w waith ef, gan fod iddi ei galwedigaeth ei hun, serch hynny ymroddodd Mair yn llwyr i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi gwaith ei phriod. Gweinidogaeth tîm fu hi erioed, a byddai James yn awyddus i gydnabod yn ddiolchgar gyfraniad sylweddol ei briod ym mhob maes o’u gweinidogaeth.

Bu’n aelod gwerthfawr o weithgorau’r Cymanfaoedd lle bu’n gwasanaethu ac yn llywydd Cymanfa Dimbych Fflint a Meirion yn 1995/6, gan anerch ar y testun – ‘Hanfod Diolchgarwch ym mywyd y Cristion’.  Mynychai gyfarfodydd blynyddol yr Undeb yn selog, a chyfrannu i’r drafodaeth yn ddyheig ac yn ddeallus.  Byddai’n gefnogwr cyson i Ysgol Haf y Gweinidogion ac yn aml roedd ‘Jim’ yn cael ei ddewis i ddarlithio ynddynt. Ystyrid ef fel cyfaill derbyniol a chymeradwy ar draws rhychwant y weinidogaeth a gwelai ei hun fel lladmerydd cydweithrediad ar draws ffiniau enwadol hefyd.  Prin y byddai’n dadlau dros gynnal arferion y gorffennol fel person ‘traddodiadol’, gan fod iddo ysbryd mentergarwch cenhadol yn ei enaid.

Ymysg ei ddiddordebau eraill, roedd wrth ei fodd yn garddio, a bu’r ardd yn Llwynhendy yn arbennig o dda iddo.  Magodd ddiddordeb mewn cadw gwenyn, a hynny yn arbennig yn ystod ei gyfnod yn Llwynhendy. Canmolir ef am ddawn i gymryd toriadau planhigion a’u rhannu i eraill.  Byddai wrth ei fodd yn canu, ac yn ystod ei gyfnod yn yr Amerig, clywodd ganu emynau Negroaidd a’u gwerthfawrogi. Cofir amdano yn canu enghreifftiau o’r caneuon hyn mewn gwasanaethau ym Methania, Maesteg, gan greu cryn argraff ar y gynulleidfa.  Roedd canu emynau Cymraeg yn rhoi pleser arbennig iddo hefyd, ynghyd â gwrando ar gerddoriaeth clasurol.  Roedd wrth ei fodd yn teithio, a hynny gan amsugno holl ddiwylliant a hanes yr ardal roedd yn ymweld â hi.  Rhoddai fri mawr ar sefydliad y Cenhedloedd Unedig, a chofir iddo bwysleisio mor arbennig oedd y gwaith a wnaed yn y ganolfan sydd ganddynt yn Efrog Newydd. Gwelai’n dda i feithrin balchder ei blant mewn dysg ac anifeiliaid anwes. Ceir atgofion ohono gan Sian o’i ymroddiad i ddeall a chefnogi’r gwaith ysgol drwy ddarllen y gwaith cendirol i’r pwnc, bod gyda’r celfyddydau neu gyda’r pynciau gwyddonol.     Dyn ei deulu oedd James Dole, a chafodd ei wyrion oll, Eirlys, Bleddyn, Anwen, Peredur, Gwydion, Ynyr, Gwyn, Llinos a Rhian Hâf o’i sylw a’i serch.

Blaengarwch oedd un o nodweddion amlwg James, gan fentro gyda’r cyfarpar diweddaraf, boed i deipio neu argraffu, gwau neu waith cyfrifiadur. Ymdrechau i ddeall rhyfeddod y sustemau digidol, er ei salwch, ac wrth ei fodd yn darganfod ffyrdd newydd i wneud ei waith. Nodwyd eisoes fod ganddo galon at y tlawd a’r difreintiedig, o gofio’r amrywiol fudiadau dyngarol a gefnogai ef a’i briod.  Tybed a oedd hyn yn adlewyrchiad o’i gefndir ei hun, a’r ffaith nad oedd modd iddo barhau gyda’i addysg Uwchradd, fel yn amlwg, roedd ganddo’r gallu academaidd i wneud? Roedd yn ei arddegau yng nghyfnod yr Ail Rhyfel Byd, a phenderfynnodd pe byddai’r rhyfel wedi parhau yn hwy, ac y byddai ef wedi cael ei alw i’r gâd, y byddai wedi gwrthod fel gwrthwynebydd cydwybodol. Bu’n heddychwr o argyhoeddiad gydol oes. Roedd hefyd yn lwyrymwrthodwr, ac yn gwrthod diodydd alcoholig bob tro.

Wedi ymddeol, dewisodd dreulio’r ugain mlynedd nesaf o’i fywyd yn nhref Harlech, gan gyfrannu, fel roedd hi’n ymarferol, at fywyd eglwysi’r cylch hwnnw ac i fywyd Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion.  Yn anffodus, gwaethygodd ei iechyd, a threfnwyd bod y ddau ohonynt yn symud i fyw i’r Tymbl, yn agosach at gartref Emlyn a Gwenda, a oedd bellach wedi ymsefydlu yn hen ofalaeth ei dad ym mhentref Llannon.  Dyma fro magwraeth Esther Ann, ei fam, a man claddu ei rhieni hithau. Bu farw yn 2009 a’i gladdu ym mynwent Hermon.  Bu’n ffodus yn ei briod a’i deulu, a roddodd ofal gwerthfawr iddo ar hyd ei oes, ac yn arbennig yn ystod y salwch olaf a’i oddiweddodd. Cofir amdano fel Cymro twymgalon, personoliaeth agored a chyfeillgar a Christion ymroddedig, a geisiai ddefnyddio pob dyfais posibl i wasanaethu’r eglwysi dan ei ofal.

 

Cyfrannwyr:

Ei blant, Gwen, Emlyn, Olwen, Sian a Meirion,
Denzil Ieuan John.

Adnod y dydd

Linciau