Davies – Dewi (1907-1999)

Un o blant y wlad oedd Dewi Davies, ond a dreuliodd y rhan helaethaf o’i weinidogaeth yn nhref Llanelli.  Ganwyd ef yn fab i David a Mary Davies, ar dyddyn o’r enw Talgoed Bach, rhwng Pencader a Llandysul.  Eglwyswr oedd y tad cyn priodi, ond trodd at y Bedyddwyr wedi hynny gyda’i briod, gan ymaelodi yn Hebron, Eglwys y Bedyddwyr,  Pencader.  Cyn ddiwedd ei oes roedd wedi ei ethol yn ddiacon yno.  Bu’r teulu’n byw yn Tŷ Capel, Hebron am gyfnod ac roedd yn gyfrifoldeb arnynt i estyn lluniaeth i’r Parchg J. D. Evans, y  gweinidog ac i bregethwyr eraill.  Roedd Dewi Davies felly yn gyfarwydd gyda bod yng nghwmni pregethwyr ers yn gynnar, a pha ryfedd iddo fwynhau’r gwmniaeth honno ar hyd ei oes. Gofynnodd am gael ei fedyddio pan oedd ond un ar ddeg oed yn afon Gwyddil, a redai gerllaw’r capel.  Yn y cyfnod hwn byddai Dewi yn cerdded gyda’i chwaer Maggie i Ysgol Capel Mair, ysgol eglwysig lle rhoddid pwys mawr ar ddysgu’r Beibl ac adrodd y credoau.

Pan oedd Dewi Davies yn un-ar-bymtheg oed symudodd ei rieni i fyw ym mhentref Pencader er hwylustod i’w dad fynd i’w waith ar y rheilffordd.  Parhaodd y rhieni i fynd nôl i Hebron, ond ymaelododd y bachgen ifanc  ym Moreia, Pencader.  Roedd y ddwy eglwys o dan yr un weinidogaeth, a dechreuodd Dewi bregethu yn ystod gweinidogaeth y Parchg G. T. Morris, gŵr a adawodd argraff ddofn arno ar gyfrif ei bregethu grymus ac efengylaidd.

Yn 1930, ar ôl cael gwersi gyda’r hwyr yng nghwmni’r Parchg T. Lloyd Jones, gweinidog Tabernacl, yr Eglwys Annibynnol leol, llwyddodd Dewi Davies i gael ei dderbyn i  Goleg Presbyteraidd, Caerfyrddin.   Roedd y cwrs am bedair blynedd ac ar derfyn y cyfnod hwnnw derbyniodd nifer o wahoddiadau gan eglwysi i fod yn weinidog arnynt.  Dewisodd ymateb i wahoddiad Eglwys Ainon Treorci ac fe’i sefydlwyd yno yn 1934.  Yn yr un flwyddyn, priododd a Miss Annie Rees o gylch Pencader.  Ganwyd iddynt un plentyn sef Gwenda.  Bu cyfnod y teulu yn Nhreorci yn un hynod ddedwydd. Cyfnod ydoedd pan roedd tlodi yn y gymuned, bygythiadau o ryfel ar y gorwel a phobl yn dal i siarad Cymraeg ac yn awyddus i glywed pregethu eneiniedig yng Nghwm Rhondda.  Arhosodd yno hyd 1942, gan dderbyn gwahoddiad oddi wrth Eglwysi Moreia Meinciau a Salem Pedair Heol, lle cafodd gyfnod diddorol a llwyddiannus cyn symud eto i Foreia, Llanelli.

Roedd symud i ganol tref brysur, boblog Llanelli yn her wahanol gan fod yn olynydd i’r gŵr amryddawn W. Rhys Watkin.  Roedd Dewi Davies yn bresenoldeb gwreiddiol a diogel yn y pulpud, ac yn bersonoliaeth addfwyn a oedd yn gyfforddus iawn yng nghwmni pobl o bob cefndir a diddordeb.  Dywedir amdano mai ei brif ddiddordeb oedd cyfarfod a phobl o’r newydd.  Byddai ganddo reddf naturiol i ymddiddori yn y gymuned gyfan.  Fel ei ragflaenydd ym Moreia, roedd yn drefnydd effeithiol, ac yn 1944 gwahoddwyd ef i fod yn is-ysgrifennydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion ac ugain mlynedd yn ddiweddarach camodd i swydd yr ysgrifennydd.  Bu’n weinyddwr ar hyd y blynyddoedd hyn.  Etholwyd ef yn ysgrifennydd dros Dde Cymru o Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru yn 1966 ar ôl bod yn Llywydd y Cyngor yn 1963.  Daeth i gyswllt â llu o arweinwyr eglwysig yr enwadau anghydffurfiol, ac ystyrid ef yn arweinydd diogel ac yn gyfaill cywir.  Anrhydeddwyd ef gyda Medal Doris Bevan a Medal Thomas Gee gan y Cyngor yn 1993.  Teithiodd yn gyson i bwyllgor Cyngor Ffederal Eglwysi Rhyddion Prydain ac fe’i gwnaed yn Aelod Anrhydeddus o’r Cyngor hwnnw.

Gwahoddwyd ef i fod yn is-lywydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion yn 1971  a bu i’r Gymanfa ymweld â Moreia yn y flwyddyn ganlynol, pan draddododd ei anerchiad o’r gadair.  Yn 1979 daeth yr Undeb i Lanelli er anrhydeddu Dewi Davies er mwyn iddo gael traddodi ei anerchiad o gadair yr Undeb ym mhulpud Moreia.

Bu nifer o weinidogion yn ddyledus i Dewi Davies am ei anogaeth a’i arweiniad, ond roedd ei ddylanwad yn drwm ar un a ddaeth ymhen y rhawg i fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddywr Cymru, sef y Parchg Peter Morgan Thomas. Un arall a fu yn drwm o dan ddylanwad Dewi Davies oedd y Parchg Mair Irfonwy Bowen, priod y Parchg Irfonwy Bowen, dau a fu’n cydweithio yn y maes cenhadol gyda Chymdeithas Genhadol y Bedyddwyr.

Yn 1966, bu farw Mrs Annie Davies yn 60 mlwydd oed. Roedd ei chyfraniad i fywyd yr eglwysi yn eithriadol a bu hithau yn frwdfrydig iawn ei chefnogaeth i waith y B.M.S.  Bu’n llywydd Cymru o Fudiad y Chwiorydd yn 1958-9. Etholwyd hi hefyd yn Llywydd Mudiad y Senana dros Gymru  Traddododd neges gofiadwy ar y testun “Rhoi’r byd yn ei le” a’r capel yn orlawn.  Gwasanaethodd y Senana fel trysorydd gyda graen a gofal am naw mlynedd hyd ei marwolaeth.

Ym 1973 ail-briododd y Parchg. Dewi Davies gyda Miss Gillian Williams yng Nghapel y Tabernacl, yr Ais, Caerdydd. Aelod yng Eglwys Castle Street, Llundain oedd Gillian, ond un oedd â’i gwreiddiau ar ochr ei mam yn Llandudoch ac ar ochr ei thad yn Nantyffyllon. Cafodd yrfa lwyddiannus fel nyrs yn Llundain, Caeredin, Toronto a Chaerdydd cyn symud i Lanelli ar ôl priodi.  Rhoddodd hithau ofal a chefnogaeth di-amod a di-syfl i’w phriod.  Bu Gillian yn frwdfrydig iawn dros waith cenhadol yr eglwys gan wirfoddoli gyda BMS World Mission a threulio chwe mis yn yr India yn 2000 ac yna chwe mis yng Ngwlad Tai yn 2010. Treuliodd Gillian gyfnod o chwe blynedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y BMS. Bu’n llywydd y Senana dros Gymru yn ystod 1994-1995.  Mae’n aelod gweithgar o Fudiad y Chwiorydd a bu’n Drysorydd y Mudiad am 34 o flynyddoedd.  Mae Gillian yn dal i fod yn aelod ymroddedig o Eglwys Moreia, Llanelli.

Ymddeolodd Dewi Davies o’r weinidogaeth yn 1996, ar ôl 62 mlynedd yn y weinidogaeth. Bu farw  ar 31 Ionawr 1999 a’i gladdu yn yr un bedd a’i briod cyntaf ym mynwent y Bocs, Llanelli.  Roedd wrth ei fodd yn yr ardd ac yn gerddwr heini. Byddai’n mwynhau dilyn y campau, ac yn arbennig rygbi, fel sy’n gweddu i berson a dreuliodd cymaint o flynyddoedd yn nhre’r sosban.  Coffa da ac annwyl ohono.

Cyfrannwr : Denzil Ieuan John.
Sian Wyn Davies

 

Llyfryddiaeth:

Hanes Eglwys Moriah Llanelli 1872-1972  – Mr O. Luther Nicholas

 

 

 

 

Adnod y dydd

Linciau