Dathlu a Diolch yn y Cynulliad Cenedlaethol

Ar ddydd Mawrth, 24ain Ebrill, daeth dros 60 o gynrychiolwyr yr Undeb at ei gilydd ar gyfer derbyniad yn y Pierhead, un o adeiladau’r Senedd yng Nghaerdydd, fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant Undeb Bedyddwyr Cymru. Roeddem yn ddiolchgar iawn i Rhun ap Iorwerth AC am ei barodrwydd i noddi’r digwyddiad ac i’r Parchedig Ieuan Elfryn Jones am gysylltu â swyddfa Rhun yn y lle cyntaf. Rhan holl bwysig o’r digwyddiad oedd y gwahoddiad i rai o eglwysi a chymanfaoedd yr Undeb, yn ogystal â Chartref Glyn Nest a Mudiad y Chwiorydd i greu arddangosfeydd am y gwaith a gyflawnir ganddynt yn y gymuned a thu hwnt. Yn ogystal, siaradodd y Parchedigion Peter Cho, Trecelyn a Kath Miller, Hengoed am waith eu heglwysi ac Irfon Roberts am Gartref Glyn Nest. Mike Hedges AC, aelod yn Eglwys Seion Newydd, Treforys fu’n gyfrifol am gloi’r rhaglen ac offrymodd weddi ar ein rhan. Yn dilyn, cawsom gyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros ginio ysgafn. Estynnwyd gwahoddiad i bob Aelod o’r Cynulliad i’r digwyddiad ac roeddem yn falch iawn o fedru croesawu 15 ohonynt gan gynnwys y Llywydd, Elin Jones AC. Dangoswyd cryn ddiddordeb ganddynt yng ngwaith yr Eglwysi a bu’n gyfle hefyd i’r cynrychiolwyr egluro mwy am eu gweithgarwch. Hyfrydwch oedd clywed Rhun ap Iorwerth a Mike Hedges yn cyfeirio at gyfraniad pwysig yr Undeb dros y blynyddoedd i fywyd Cymru.

Yn ogystal a’r rhai a enwyd eisoes cafwyd o bresenoldeb yr Aelodau Cynulliad Sian Gwenllian, Arfon; Mick Antoniw, Pontypridd; Adam Price, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; Llŷr Gruffydd, Gogledd Cymru; Darren Millar, Gorllewin Clwyd; Nick Ramsay, Mynwy; Paul Davies, Preseli Penfro;Dr Dai Lloyd a Caroline Jones, De Orllewin Cymru; Mark Isherwood, Gogledd Cymru; Rebecca Evans, Gŵyr; Owen Jones, Swyddfa Jayne Bryant, Gorllewin Casnewydd.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r Undeb gynnal digwyddiad yn y Senedd a mawr obeithir y bydd modd gwneud hynny eto yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhlith ein gwleidyddion am gyfraniad Cristnogion i fywyd Cymru. Rydym yn ddiolchgar hefyd i Rhodri ab Owen, Eglwys y Tabernacl, Caerdydd, am ei gymorth wrth drefnu’r digwyddiad.


  

  

Yn dilyn y digwyddiad gwnaed y cyfeiriadau canlynol yng nhyfarfod llawn y Cynulliad:

Datganiad Busnes a Chyhoeddiad,24 Ebrill 2018

Darren Millar: …Ac yn olaf, o ystyried eich cyfrifoldeb dros gymunedau ffydd, arweinydd y Tŷ, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Undeb Bedyddwyr Cymru ar ei phen-blwydd yn gant a hanner? Yr oedd llawer o Aelodau’r Cynulliad yn bresennol yn y dathliadau, a gynhaliwyd yn y Pierhead y prynhawn yma, ac yr wyf yn teimlo y dylai hynny gael ei gydnabod yma yn y Siambr y prynhawn yma, gennych chi, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog dros gymunedau ffydd. Mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi cael effaith aruthrol, nid yn unig ar bobl Cymru, ond ar draws y byd hefyd, drwy ei gweithgareddau cenhadol, a chredaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gydnabod y cyfraniad aruthrol y maent wedi’i wneud.

Julie James AC:Ydw, rwyf wrth fy modd yn cydnabod y cyfraniad hwnnw, yn arbennig i’m bywyd fy hun. Mae llawer o’r emynau yr wyf yn eu hadnabod ac yn eu caru o ganlyniad i fynychu Capel y Bedyddwyr gyda fy nain, a chanu fy nghalon allan, dair gwaith y dydd ar ddydd Sul, pan gawsom y fraint o fod yn treulio diwrnod gyda hi. Felly, mae gennyf atgofion melys iawn o hynny. Ac, yn wir, yr wyf yn hapus iawn i gydnabod cyfraniad Undeb Bedyddwyr Cymru, ac, yn wir, ein holl gymunedau ffydd, at y dreftadaeth ddiwylliannol a chrefyddol gyfoethog yr ydym yn falch iawn ohoni — a hynny’n gwbl briodol — yma yng Nghymru. Felly, rwy’n falch iawn o allu gwneud hynny; diolch am y cyfle.

Nick Ramsay:Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i gyd-fynd â’r sylwadau a wnaed yn gynharach gan Darren Millar ynghylch canmlwyddiant Undeb Bedyddwyr Cymru? Mynychaisydigwyddiadhwnnwhefyd,felygwnaethllaweroAelodauCynulliaderaill.Roeddynllwyddiannusiawn,acanfonwneingorau atynt.

Datganiad 90 Eiliad, 25 Ebrill 2018

Mike Hedges AC:Diolch, Llywydd. Dwi’n falch iawn o gael y cyfle i longyfarch Undeb Bedyddwyr Cymru ar ei gant a’i hanner canmlwyddiant. Siaradaf fel aelod o Seion Newydd, Capel y Bedyddwyr Cymraeg a leolir yn Nhreforys. Ddoe, bûm mewn digwyddiad yn y Pierhead i ddathlu can mlwyddiant Bedyddwyr Cymru, ac yr wyf yn falch iawn bod cynifer o Aelodau, gan eich cynnwys chi, Lywydd, yn bresennol.

Rwyf am dynnu sylw at y rôl a chwaraeodd y Bedyddwyr Cymraeg, ynghyd â chapeli anghydffurfiol eraill o Gymru, yn y dilyniant o’r Gymraeg yn ystod rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif. Chwaraeodd ran fawr yng ngwleidyddiaeth Cymru hefyd, gan ddarparu llawer o Aelodau i’r Rhyddfrydwyr, Llafur a Phlaid Cymru. Gellir gweld llwyddiant achos y Bedyddwyr ym mhentrefi, trefi a dinasoedd Cymru lle’r oedd dros 1,000 o gapeli’r Bedyddwyr.

MaegweinidogionBedyddwyrCymruwedichwaraerhanfawryngngwleidyddiaethCymruwrthysgrifennuemynau.Roedd Lewis Valentine yn ysgrifennwr emynau enwog, a’i emyn enwocaf oedd gweddi dros Gymru, ond roedd hefyd yn aelod cynnar o Blaid Cymru ac yn un o’r tri a osododd ysgol fomio ar dân yn 1936. Roedd Thomas Price yn ffigwr blaenllaw ym mywyd gwleidyddol a chrefyddol Cymru oes Fictoria, ac yn Weinidog yng Nghapel y Bedyddwyr Calfaria, Aberdâr, a’i swydd gyntaf oedd fel pageboy. Lansiodd Joseph Harris, Gweinidog y Bedyddwyr Cymraeg — a gymerodd ‘Gomer’ fel ei enw barddol — ar 1 Ionawr 1814, yn Abertawe, yr wythnosolyn iaith Gymraeg cyntaf, Seren Gomer. Mae arnom ni, fel cenedl, gryn ddiolchgarwch i Undeb Bedyddwyr Cymru am yr hyn y maent wedi’i gyflawni dros y 150 mlynedd diwethaf.

Adnod y dydd

Linciau