Agosawn at y marc hanner ffordd – Diolch!
Targed yr Apêl: £40,000
Cyfanswm yr Apêl hyd yma: £16,782
(Ionawr 2021)
Adnoddau newydd 2021 ar gyfer gwasanaethau ar-lein neu wasanaethau ‘wyneb yn wyneb’.
O ganlyniad i bandemig Covid-19, mae Apêl Timothy Richard wedi’i hymestyn tan fis Gorffennaf 2021 gyda rhai adnoddau newydd i eglwysi eu defnyddio.
Beth am gynnal gwasanaeth cenhadol arbennig yn canolbwyntio ar stori Timothy Richard – gwahoddwn ichi ddefnyddio’r adnoddau isod.
‘Gwasanaeth Y Sul’ gan y Parch Peter M Thomas
- Yn garedig iawn, mae Peter wedi paratoi trefn wasanaeth lawn sy’n cynnwys darlleniadau, gweddïau, myfyrdodau, emynau a chyflwyniad PowerPoint.
- Gellid defnyddio neu addasu hyn ar gyfer gwasanaeth ar-lein.
- Anogwch y rhai nad ydynt yn gallu ymuno â gwasanaethau ar-lein drwy argraffu a rhannu copi i’w ddarllen gartref.
Lawrlwythwch y Gwasanaeth: Sul-Apêl-Timothy-Richard-2021
Lawrlwythwch y Powerpoint: Apêl TIMOTHY RICHARD
Fideos newydd ar gael i’w lawrlwytho a’u defnyddio
Fideo 1: Beth mae’r eglwys yn ei wneud mewn cyfnod o argyfwng?
Ym mis Chwefror 2021 cafodd nifer o weinidogion UBC gyfle i siarad â Nabil Costa (Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Ysgolion Efengylaidd Lebanon (AESL) a’i gydweithiwr Wissam, a fynychodd gyfarfod ar-lein ar gyfer Gweinidogion UBC
Ysgrifennodd Nabil yn ddiweddar: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wynebodd Lebanon sawl argyfwng: Y gwrthryfeloedd torfol, pandemig y Coronafeirws, a’r ffrwydrad ym mhorthladd Beirut ar Awst 4ydd, 2020. Daeth y rhain ar sodlau degawd o helbul dyngarol eithafol sydd wedi arwain at argyfwng economaidd, ariannol a chymdeithasol sy’n gwaethygu’n gyson. Mewn ymateb i argyfyngau amrywiol y flwyddyn, neidiodd pob un o’n gweinidogaethau, law yn llaw â’r eglwys leol, i gynorthwyo’r gymuned gyfagos. Daeth pawb at ei gilydd, yn cydweithio i gwrdd a’r amryfal anghenion.”
Video 2: Sut mae eglwysi’r Bedyddwyr yn ymateb i’r argyfwng yn Lebanon?
Fideo byr (5 munud) sy’n dangos y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan eglwysi Bedyddwyr Lebanon. Dangoswyd y fideo hwn yng Nghyngor Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop 2020.
Video 3: Fideo byr gan Dr Kang San Tan, Cyfarwyddwr Cyffredinol BMS World Mission yn diolch am yr holl roddion a dderbyniwyd.
Video 4: ‘Hope for Refugee Children’ – Fideo sy’n ein hatgoffa ni am bwy oedd Timothy Richard a sut y gallwn helpu BMS i weithio ymhlith plant ffoaduriaid yn Syria.
Adnoddau ychwanegol
Nodwch fod adnoddau ychwanegol ar gael ar dudalen Apêl BMS.
https://www.bmsworldmission.org/appeal/buw-timothy-richard-appeal/
Sut alla i roi?.
Deallwn y bydd yn anodd cynnal casgliadau eleni. Serch hynny, gofynnwn ichi ystyried a hysbysebu’r opsiynau canlynol ar gyfer y rhai a hoffai roi.
- Rhoi Ar-lein: I gyfrannu ar-lein ewch yn uniongyrchol i wefan BMS Cymru:
https://www.bmsworldmission.org/appeal/buw-timothy-richard-appeal/ - Rhoi drwy’r Post: Os hoffech gyfrannu drwy’r post, gallwch anfon eich siec yn daladwy i ‘Undeb Bedyddwyr Cymru’ wedi’i marcio’n glir Apêl Timothy Richard i’r swyddfa yng Nghaerfyrddin.
- Casgliad Eglwys: Defnyddiwch y slip cyfrannu ar-lein sydd ar gael i’w lawrlwytho yma.https://www.bmsworldmission.org/product/timothy-richard-appeal-donation-slip
Apêl Timothy Richard
Yn 2019 wnaeth Undeb Bedyddwyr Cymru gofio canrif ers marwolaeth un o’n cenhadon mwyaf adnabyddus – Timothy Richard.
Mae Timothy Richard yn arwr Cymreig, er nad oes llawer yn gwybod ei enw. Mae ei arwriaeth yn deillio o’i wasanaeth i Iesu Grist a’i wasanaeth i’w gymdogion mewn gwlad dramor. Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, anfonodd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr ef i Tsieina ym 1869 ac fe’i hadwaenir fel un o genhadon mwyaf arloesol ei ddydd, a gwelir ei waddol yng ngwaith y Gymdeithas Genhadol – y BMS – hyd heddiw. Fe chwaraeodd ran bwysig yn ystod Newyn Mawr Tsieina 1876-1879, a sefydlu prifysgol Tsieineaidd-Gorllewinol a oedd yn teimlo’n angerddol ynghylch rôl addysg fel ffordd o leddfu ac atal dioddefaint. Fe’i parchwyd gymaint gan yr awdurdodau yn Tsieina – am ei angerdd, ei drugaredd a’i barch tuag at eu diwylliant – fel y’i gwobrwywyd â statws Urdd y Ddraig Ddwbwl.
Mae eglwysi Cymru angen arwyr Cymreig, Cristnogion sydd wedi gwneud gwahaniaeth, arloeswyr sy’n gallu ysbrydoli ein cynulleidfaoedd i wasanaethu Duw yn well a charu ein cymydog – ble bynnag y bônt.
Pa ffordd well o ddathlu cyfraniad Richard a’i waith cenhadol arloesol na thrwy gefnogi gwaith y BMS o drawsnewid bywydau plant ffoaduriaid o Syria yn Lebanon?
Mae’r hyn y gall eglwysi Cymru ei wneud yn syml:
- Gwneud casgliad arbennig yn eich eglwys ar gyfer Apêl Timothy Richard
- Rhannu’r ffilm a’r cyflwyniad PowerPoint am Timothy Richard a gwaith y BMS ymysg plant ffoaduriaid Syriaidd yn eich gwasanaeth
- Defnyddio’r PowerPoint i gyflwyno’ch eglwys i’r plant y byddant yn eu helpu, a defnyddio syniadau “Sut i gymryd rhan” a’r ffilm i’w hysbrydoli
- Ewch i www.bmscymru.org i ddod o hyd i fwy o adnoddau
Wrth inni gofio gwaith Timothy Richard, byddwn yn gofyn i’r un eglwysi a’i gefnogodd dros ganrif yn ôl i ymateb i achos y credwn y byddai wedi bod yn agos iawn i’w galon: darparu addysg i blant mewn gwlad sydd wedi ei rhwygo gan drychineb
Gallwch chi, yn bersonol, helpu plant fel Gabi a Maher – dau fachgen Syriaidd sy’n byw mewn pabell a heb weld eu cartref yn Syria ers blynyddoedd oherwydd y rhyfela yno. Maent yn byw yn Lebanon erbyn hyn – gwlad tua hanner maint Cymru – sydd wedi cymryd 1.5 miliwn o ffoaduriaid. Gallwch chi eu helpu nhw a phobl dros y byd, drwy annog eich eglwys i gefnogi Apêl Timothy Richard a gofyn i’ch cyd-aelodau i roi’n hael.
Mae’r gwaith y mae Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr – y BMS – eisoes yn ei wneud mewn canolfan addysg tu allan i Beirut yn newid bywydau plant ac yn rhoi gobaith iddynt. Drwy gydweithio â’r Eglwys yn Lebanon, mae cariad Crist i’w weld ar waith yn ymarferol a’r rhodd o addysg yn cael ei roi i bobl yn enw Iesu. Mae’n achos y byddai Timothy Richard yn ei gymeradwyo gan iddo arwain yr apêl ddyngarol cyntaf gan Gristnogion o’n gwlad ni a helpodd y sawl oedd yn dioddef yn ystod newyn mawr yn Tsieina.
Os daw eglwysi Cymru ynghyd mewn ffydd, credwn y bydd Duw yn gwneud pethau mawr gyda’n rhoddion. Gallwn wneu gwahaniaeth gwirioneddol i fwy o blant fel Gabi a Maher, os gallwn godi £40,000 gyda’n gilydd. Rwy’n credu y gallwn wneud hynny! Ac fe ddylem hefyd.
Hyd yn oed yn ystod yr amseroedd ansicr yma, rydym yn credu yn Nuw gobaith. A wnewch chi ymuno ag eglwysi eraill o deulu’r Bedyddwyr i wneud Apêl Timothy Richard yn fwy llwyddiannus nag y gallwn ei ddychmygu? A wnewch chi ddylanwadu eraill a’u hysbrydoli i helpu’r plant?
Ymunwch â ni i ddathlu arwr Cymreig go iawn mewn ffordd Gristnogol. Helpwch ni i wneud gwahaniaeth.