Taith drwy’r Adfent
Yn y flwyddyn hon o weddi, rydym yn falch o ddarparu’r adnodd Adfent hwn y gallwch ei rannu gyda’ch aelodau a chyfeillion eich eglwys i’n helpu i wneud y daith bwysicaf oll y Nadolig hwn.
Wrth i ni wynebu Nadolig gwahanol eleni oherwydd y pandemig byd-eang, cawn ein hatgoffa mai canolbwynt popeth a ddathlwn yw rhyfeddod Iesu, Duw gyda ni, a anwyd ym Methlehem i fod yn Waredwr y Byd.
Beth am rannu’r adnodd ‘Taith drwy’r Adfent’ hwn gydag aelodau eich eglwys er mwyn calonogi’ch gilydd drwy’r darlleniadau a’r myfyrdodau.
Sut allech chi ddefnyddio’r adnodd Adfent hwn?
- Beth am anfon y ffeiliau PDF drwy e-bost at eich aelodau sydd ag e-bost?
- Cofiwch gynnwys aelodau nad ydynt ar e-bost ac ystyried dosbarthu’r copïau papur i ganiatáu iddynt rannu yn y daith hon.
- Os oes gennych dudalen Facebook yr eglwys, beth am drefnu post i ymddangos ar gyfer pob myfyrdod.
- Gwahoddwch bobl i ymweld â thudalen Facebook UBC lle bydd y defosiwn hefyd yn ymddangos.
- Defnyddiwch y myfyrdodau a’r darlleniadau i gyfarfod ar gyfer gweddi ac Astudiaeth Feiblaidd mewn grwpiau bach (ar-lein neu’n bersonol yn amodol ar gyfyngiadau COVID).
Hoffem ddiolch i’r Parch Tim Moody ac Eglwys y Bedyddwyr Moriah, Rhisga am rannu’r adnodd hwn gyda ni.
Gobeithio bydd y daith drwy’r Adfent yn fendith i chi a’ch eglwys.
Llawrlythwch gopi isod:
Taith Drwy’r Adfent 2020